Chwyddiant ar ei uchaf ers dros 40 mlynedd
16/11/2022
Mae cyfradd chwyddiant wedi cyrraedd ei lefel uchaf ers 1981 sef 11.1%.
Mae hyn yn gynnydd ar y gyfradd o 10.5% fis diwethaf.
Daw'r cynnydd wrth i brisiau bwyd, golau a gwres godi'n bellach.
Mae hyn er gwaethaf cap ar brisiau unedau egni gan Lywodraeth y DU.
Y gyfradd chwyddiant sydd yn dangos faint mae prisiau nwyddau wedi codi mewn cyfnod penodol.