Rhybudd am gyflenwad peryglus o heroin yn Sir Gaerfyrddin
15/11/2022
Mae rhybudd wedi ei gyhoeddi am gyflenwad peryglus o heroin yn ardal Sir Gaerfyrddin.
Dywedodd Gwasanaeth Cyffuriau ac Alcohol Dyfed fod angen i ddefnyddwyr fod yn wyliadwrus o'r cyflenwad peryglus all achosi niwed i iechyd.
Mae'r Gwasanaeth wedi cynghori defnyddwyr i gario'r gwrth-gyffur Naloxone ac i beidio defnyddio heroin heb fod neb arall yn bresennol.
Ychwanegodd datganiad gan y gwasanaeth y dylai defnyddwyr ysmygu ychydig yn gyntaf er mwyn profi pob cyflenwad.