Newyddion S4C

Athrawon yng Nghymru i dderbyn codiad cyflog o 5%

14/11/2022
athro

Bydd athrawon yng Nghymru yn derbyn codiad cyflog o 5%.

Y cyflog cychwynnol ar gyfer athrawon fydd £28,866 gyda chyflogau athrawon dosbarth mwy profiadol yn cynyddu o £2,117 i £44,450.

Wrth gyhoeddi'r newyddion fe wnaeth y Gweinidog Addysg a'r Iaith Gymraeg, Jeremy Miles, gydnabod y byddai rhai yn siomedig nad oes cynnydd uwch yn y cyflog yn sgil yr argyfwng costau byw. 

Dywedodd Mr Miles nad oedd hyn yn bosibl oherwydd "na chafwyd cyllid ychwanegol gan Lywodraeth y DU."

Dros y tair blynedd nesaf, bydd cyllideb Llywodraeth Cymru yn werth £4 biliwn yn llai, a dywedodd ei fod yn "galw ar Lywodraeth y DU i "wneud y peth iawn o'r diwedd ac i i weithredu ar unwaith i adfer cyllideb Cymru fel y gallwn gefnogi ein gwasanaethau cyhoeddus."

Fe wnaeth Mr Miles hefyd groesawu gwelliannau, a gafodd eu cynnig yn rhan o Gorff Adolygu Cyflogau Annibynnol Cymru, megis taliadau cydnabyddiaeth athrawon rhan-amer am lwfansau cyfrifoldeb addysgu ac arweinyddiaeth. 

Ychwanegodd Mr Miles y byddai'r "dyfarniad cyflog yn cael ei ôl-ddyddio i 1 Medi 2022. Mater i gyflogwyr fydd amseru’r dyfarniad.

"Mae trafodaethau cychwynnol ag awdurdodau lleol wedi bod yn gadarnhaol, gyda’r nod o drefnu bod ôl-daliadau’n cael eu gwneud cyn gynted â phosibl, cyn diwedd mis Rhagfyr gobeithio."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.