11 o bobl wedi marw yn dilyn damwain awyren yn Ffrainc

Damwain awyren Tomblaine

Mae 11 o bobl wedi marw yn dilyn damwain awyren yn nhref Tomblaine yng ngogledd-ddwyrain Ffrainc, yn ôl yr awdurdodau yn lleol.

Bu farw peilot yr awyren a’r 10 teithiwr arall - pump o fyfyrwyr a phum hyfforddwr - yn y ddamwain ddydd Sul.

Y gred yw bod yr awyren yn cael ei defnyddio gan ysgol barasiwt pan ddigwyddodd y ddamwain, a'i bod newydd esgyn o faes awyr Nancy- Essey gerllaw 

Mae aelodau o Lywodraeth Ffrainc ar eu ffordd i'r safle. 

Yn ol yr awdurdodau'n lleol, chafodd neb islaw ar y ddaear ei anafu.  

Mae swyddogion yn lleol wedi dweud fod teuluoedd y dioddefwyr yn bresennol yn y maes awyr bychan pan ddigwyddodd y ddamwain.  

Mae'r heddlu yn annog pobl i osgoi'r ardal o amgylch y maes awyr.

Llun: Reuters

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.