Wcráin: ‘Mae’n uffern yno’

The Guardian 13/11/2022
Wcrain

Mae brwydrau ffyrnig yn cymryd lle yn ardal Donetsk yn nwyrain Wcráin wrth i luoedd Rwsia ffoi yn ôl yr arlywydd Volodymyr Zelensky.

Dywedodd fod ymladd chwyrn yn yr ardal. “Mae’n uffern yno,” meddai.

Mae adroddiadau fod isadeiledd yn ardal Kherson yn ne'r wlad wedi cael difrod gyda ffrwydradau wedi eu gweld ar argae yn agos i’r ddinas.

Pe bai’r argae yn methu byddai’r dŵr yn llifo dros y ddinas gan beryglu bywydau’r trigolion yno.

Daw hyn ar ôl i fyddin Wcráin adennill Kherson wrth i luoedd Rwsia ffoi dros afon Dnipro.

Darllenwch fwy yma.

Llun: Wochit

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.