Newyddion S4C

'Bois 58': Chwarae dros Gymru 'yn bwysig’ i Ivor Allchurch

13/11/2022
ivor

Mae gwraig un o sêr pêl-droed Cymru yn y 50au a’r 60au wedi dweud pa mor bwysig iddo oedd chwarae dros ei wlad.

Roedd Ivor Allchurch yn un o’r garfan yng Nghwpan y Byd 1958 ac yn cael ei weld fel ‘chwaraewr aur’ y cyfnod.

Ond mewn rhaglen ddogfen newydd ‘Bois 58’ ar S4C mae ei wraig, Esme yn sôn am sut wnaeth ei berthynas gyda'i glwb, Newcastle United, chwerwi am eu bod nhw’n gwrthod ei ryddhau i chwarae dros Gymru.

“Dyna oedd un o’r pethau roedd o wedi mynnu, nad oedd o yn mynd i arwyddo os nad oedd o yn cael sicrhad y byddai o wastad yn cael ei ryddhau pe byddai Cymru ei angen o,” meddai.

“Doedd o ddim yn deg achos os oeddech chi yn Sais doedd gan y clwb ddim gafael drostoch chi. Doedden nhw ddim yn gallu gwrthod. Ond os oeddech chi yn Gymro mi oedden nhw yn gallu gwneud am eu bod nhw yn chwarae yng nghynghrair Lloegr.”

Yn y rhaglen ddogfen mae'r cefnogwr pêl-droed a chyn-gyflwynydd BBC Radio Cymru, Geraint Iwan, yn sôn am hanes chwaraewyr Cymru oedd yn rhan o’r garfan wnaeth gyrraedd yr wyth olaf yng Nghwpan y Byd yn 1958.

Mae’n cynnal cyfweliadau gyda Cliff Jones, Esme Allchurch a mab John Charles, Mel Charles ac mae lluniau archif o’r cyfnod.

Yn ôl Mel Charles roedd ei dad yn siomedig iawn nad oedd o wedi gallu chwarae yn y gêm yn erbyn Brasil yng Nghwpan y Byd. Yn y gêm honno fe gollodd Cymru o 1 gôl i 0. Golygodd hynny mai dyna oedd diwedd siwrne'r tîm cenedlaethol yn y bencampwriaeth.

Roedd John Charles wedi cael anaf yn un o’r gemau blaenorol.

“Wrth siarad gyda fy nhad ac wrth i fi fynd yn hŷn a siarad am Gwpan y Byd, mi oedd o jest yn drist iawn nad oedd o wedi gallu chwarae yn erbyn Brasil.”

Fe ddywedodd John Charles ei hun ar y pryd y bysai Cymru nid yn unig wedi ennill y gêm pe byddai o yn ffit ond ennill Cwpan y Byd hefyd.

‘Bois 58’, nos Sul Tachwedd 13 am 21:00.

Llun: Rhys Owain Williams

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.