Cwis digidol dyddiol i ‘ddenu siaradwyr newydd’ i’r Gymraeg
Mae S4C wedi lansio ap cwis newydd er mwyn hybu’r iaith yn ddyddiol.
Fe fydd yr ap ‘Cwis Bob Dydd’, ar y cyd gyda Llywodraeth Cymru, yn cynnwys 10 cwestiwn bob dydd ac yn rhedeg am gyfnod o 12 wythnos, gyda'r cyfle i ennill gwobrau yn wythnosol.
Bwriad yr ap yw i “ddenu rhagor o siaradwyr Cymraeg a chynyddu defnydd dyddiol o’r Iaith,” meddai S4C.
Bydd Wicipedia Cymru a Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn darparu adnoddau ar gyfer creu cwestiynau a bydd tymor cyntaf yr ap yn cael ei noddi gan Y Ganolfan Ddysgu Cymraeg.
Mae fersiwn Basgeg o'r ap eisoes wedi profi yn llwyddiant mawr gyda degau o filoedd o chwaraewyr dyddiol ar ôl tair blynedd.
Fe fydd pob gêm yn wahanol gyda chwestiynau ar amrywiaeth o bynciau, gan gynnwys cwestiynau cwis traddodiadol a rhai am ddiwylliant Cymru.
Dywedodd Arweinydd Trawsnewid Cynnwys Digidol S4C Rhodri ap Dyfrig: " Bydd yr ap yma yn gyfle i ddenu siaradwyr newydd a chreu sŵn positif o amgylch yr iaith gan gynyddu defnydd dyddiol o'r iaith gyda thechnoleg arloesol. Gobeithio gallwn ddysgu o lwyddiant yr ap yn y Basgeg a chreu yr un cynnwrf yma yng Nghymru."
Dywedodd Jeremy Miles Gweinidog y Gymraeg ac Addysg Cymru: "Ry'n ni am annog pawb i ddefnyddio faint bynnag o Gymraeg sydd ganddyn nhw bob dydd. Mae Cwis Bob Dydd yn gyfle hwyl i ddefnyddio mwy o Gymraeg pob dydd, rwy'n falch o gefnogi ac yn annog pobl i gymryd rhan."
Mae’r ap ar gael ar ddyfeisiau Apple ac Android.