Galw am fwy o unedau bariatrig yng Nghymru wrth i gleifion ddewis llawdriniaethau tramor

Y Byd ar Bedwar 14/11/2022

Galw am fwy o unedau bariatrig yng Nghymru wrth i gleifion ddewis llawdriniaethau tramor

Mae galwadau am fwy o unedau bariatrig yng Nghymru i atal cleifion rhag dewis llawdriniaethau tramor.

Mae rhai pobl, sydd wedi trio popeth i golli pwysau trwy ddeiet iach ac ymarfer corff, yn teimlo mai'r unig ddewis yw llawdriniaeth fariatrig i golli pwysau.

Mae 62% o oedolion yng Nghymru dros eu pwysau neu’n ordew - ac mae’n rhif sydd wedi cynyddu dros y blynyddoedd.

Dyna sut oedd Mari Ellis Parker, 42 o Groeslon yng Nghaernarfon yn teimlo ar ddechrau’r flwyddyn. Yn pwyso 25 stôn, roedd hi wedi colli rheolaeth dros ei phwysau, meddai.

Wrth siarad ar raglen Y Byd ar Bedwar, dywedodd Mari: “Oedd yna lot o bethau wedi arwain at yr ennill pwysau, yn cynnwys colli mam, oedd cyfnod Covid a gweithio ym maes gofal cymdeithasol yn amser straenus ofnadwy lle ro’n i’n byw ar adrenalin a bisgedi rili.”

“Ro’n i’n planio diwrnodau fi o gwmpas efallai mynd fyny’r grisiau un waith y dydd, i wneud yn siŵr fy mod i ddim yn gorfod rhoi straen ar fy mhengliniau.

“Roedd bod yn anodd, roedd byw anodd, roedd symud yn anodd.”

Image
syrjeri latfia
Mae nifer o bobl yn teithio tramor i dderbyn y triniaeth yma.

Fe wnaeth Mari benderfynu mai llawdriniaeth colli pwysau oedd y ffordd ymlaen.

Yn ôl y Gwasanaeth Iechyd i Gymru, llawdriniaeth yw’r dewis olaf. I fod yn gymwys mae’n rhaid bod gan rywun BMI o 40 neu’n fwy, fod yn 18 oed, ac wedi byw gyda gordewdra difrifol am o leiaf pum mlynedd. 

Y cam cyntaf i Mari oedd troi at y meddyg teulu i dderbyn atyfeiriad i’r Llwybr Rheoli Pwysau Cymru Gyfan, sef canllawiau sy’n cael eu gosod gan Lywodraeth Cymru i gefnogi datblygiad gwasanaethau rheoli pwysau.

Yna, byddai’n rhaid iddi gwblhau rhaglen rheoli pwysau dwys am o leiaf 24 mis, heb fod wedi llwyddo i golli pwysau yn flaenorol, a chynnal pwysau iach. Fodd bynnag, yn ôl Mari roedd hyn yn amhosib ei gyflawni.

“O'n i methu gwneud beth oedden nhw eisiau i fi wneud a da chi’n gorfod jumpio trwy hoops mewn ffordd i gyrraedd y pwynt lle maen nhw’n eich ystyried chi ar gyfer syrjeri… ac oedden nhw’n gwneud therapi grŵp, ac roedd yn rhaid i chi fynychu’r therapi grŵp ac roedd e ar fore dydd Iau. O’n i’n gwaith ar fore dydd Iau.”

Fe wnaeth Mari ofyn am gael mynychu grŵp arall ond nid oedd adnoddau yno i wneud hynny. 

Ar ôl sgrolio ar y platfform cyfryngau cymdeithasol TikTok, fe ddaeth Mari ar draws opsiwn arall i gael y llawdriniaeth.

“Dwi’n meddwl ‘wnes i ddisgyn lawr ychydig bach o rabbit hole, ffeindio bod pobl yn cael y syrjeris yma dramor, bod o’n ffracsiwn o’r pris oedd o i wneud o ym Mhrydain a meddwl efallai mai dyna oedd yr ateb i fi. 

Procedure fatha gastric bypass er enghraifft, dach chi’n sôn am tua £10,000 i £15,000 ym Mhrydain, a dach chi’n sôn am rywle rhwng £3,000 i £6,000 dramor.”

Mae cannoedd o gleifion o Gymru yn teithio dramor am lawdriniaethau colli pwysau - dros y byd mae’r diwydiant twristiaeth iechyd werth dros £350 biliwn y flwyddyn.

Fis Ebrill eleni, aeth Mari i Riga, prifddinas Latfia yng ngogledd Ewrop, i dderbyn llawdriniaeth dargyfeirio gastric, sef syrjeri i leihau maint y stumog.

“Er mod i ofn, ac er bod y risgiau yn real iawn, ro’n i isio rhywbeth gwell i fy hun, a hwn oedd y ffordd ymlaen i weld hynny’n digwydd.” 

Image
Mari
Fis Ebrill eleni, aeth Mari i Riga, prifddinas Latfia yng Ngogledd Ewrop, i dderbyn llawdriniaeth dargyfeirio gastric, sef syrjeri i leihau maint y stumog. Llun: ITV Wales

Ers y llawdriniaeth, mae Mari wedi colli saith stôn a hanner, ond mae hi’n cyfaddef bod y broses wedi bod yn anodd yn seicolegol. 

“Wrth gwrs dyw rhywun ddim yn cael bwyta am gyfnod eithaf hir ar ôl cael y syrjeri er mwyn gadael i bethau mendio…”

Er i’r broses fod yn anodd, dyw Mari ddim yn difaru ei phenderfyniad. Mae ganddi neges i unrhyw un sy’n beirniadu ei phenderfyniad am fynd dramor. 

“Dwi wedi yn flaenorol colli pwysau y ffordd mae cymdeithas yn dweud wrthym ni sy’n gywir… dwi wedi dietio, exercisio a bod yn disciplined ofnadwy. Ond y gwir ydy, odd genna fi ddibyniaeth ar fwyd.”

Petai Mari wedi llwyddo i gael y llawdriniaeth adref, y cam olaf byddai derbyn cymeradwyaeth gan yr unig uned llawdriniaeth colli pwysau ar y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru, wedi’i sefydlu ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe. 

Eleni, mae’r uned wedi gwneud 14 o lawdriniaethau llawes gastrig neu ‘gastric sleeve’, sef llawdriniaeth i leihau maint y stumog ac un o’r llawdriniaethau colli pwysau mwyaf poblogaidd.

Mae’r Athro Jonathan Barry yn un o dri llawfeddyg sy’n gallu gwneud y math yma o lawdriniaethau ar y GIG. Yn ôl yr athro, cyn Covid roedden nhw’n gwneud 120 i 150 o lawdriniaethau y flwyddyn. 

Image
Athro Jonathan Barry
Mae’r Athro Jonathan Barry yn un o dri llawfeddyg sy’n gallu gwneud y math yma o lawdriniaethau ar y GIG. Llun: ITV Wales

“Mae gennym ni broblem fawr yng Nghymru gyda gordewdra difrifol.”

Yn ôl cais rhyddid gwybodaeth gan Y Byd ar Bedwar, dros y ddwy flynedd ddiwethaf mae’r tîm hefyd wedi trin saith claf ar ôl iddyn nhw ddychwelyd i Gymru gyda chymhlethdodau ar ôl cael y math yma o lawdriniaeth tramor.

“Felly, mae yna gymhlethdodau penodol gyda’r math yma o lawdriniaeth. Y prif un yw’r stumog yn gollwng, felly unrhyw bryd ry’n ni’n torri a rhannu rhan o goluddyn neu winio coluddyn yn ôl at ei gilydd, mae yna siawns bydd stumog y claf yn gollwng.

“Ar wahân i’r ffaith eu bod nhw wedi bod rhywle arall i gael y llawdriniaeth, sef eu penderfyniad eu hunain, os y’n nhw datblygu cymhlethdodau, mae gennym ni gyfrifoldeb i ddatrys y problemau…

“Ond, byddai’n well gennyf i fod y cleifion hyn yn cael eu gofalu gan y GIG yma yng Nghymru mewn uned llawdriniaeth fariatrig go iawn gyda gwell canlyniadau.”

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae ein Llwybr Rheoli Pwysau Cymru Gyfan yn nodi pa gefnogaeth a thriniaeth y gall pobl ddisgwyl cael i gynorthwyo i golli pwysau, ond yn y pen draw clinigwyr sy'n gwneud penderfyniadau i fynd am lawdriniaeth. 

“Rydym yn gweithio gyda byrddau iechyd i ystyried pa adnoddau sydd eu hangen i gefnogi pobl sydd â phroblem rheoli pwysau ac rydym yn darparu £5.8m ychwanegol dros 2022-24 i wella'r ddarpariaeth. Mae hyn yn cynnwys edrych ar gynyddu capasiti ar gyfer llawdriniaeth fariatrig.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.