Newyddion S4C

Dafydd Iwan ar 'Yma o Hyd' - y gân a 'newidiodd ei fywyd'

12/11/2022
S4C

Mae Dafydd Iwan wedi dweud bod ei gân Yma o Hyd wedi "newid ei fywyd" ers iddo ei chyfansoddi.

Cafodd y gân wreiddiol gan Dafydd Iwan ac Ar Log ei rhyddhau yn 1983 - bron i 40 mlynedd yn ôl.

Ond erbyn hyn, mae'r gân wedi profi adfywiad gan ddod yn rhan annatod o ddilyniant pêl-droed Cymru.

Gyda Chymru ar fin cystadlu yng Nghwpan y Byd am y tro cyntaf ers 1958, does dim llwyfan amlycach wedi bod i'r gân.

Bydd y rhaglen arbennig sy'n edrych ar hanes Yma o Hyd yn cael ei darlledu am y tro cyntaf yng Ngŵyl y Wal Goch yn Wrecsam.

"O'dd Cymru a'r iaith mewn lle gwahanol iawn adeg hynny," meddai Dafydd ar y rhaglen.

"Nes i sgwennu'r gân i drio dod â pobol at ei gilydd, i gynnig gobaith, codi calonnau, a dyma ni ddegawdau'n ddiweddarach, nes i 'rioed freuddwydio y bydde'r gân yn newid ym mywyd i ac yn mynd â fi ar siwrne ryfeddol efo'r tîm pêl-droed cenedlaethol."

Ar drothwy Cwpan y Byd, cafodd fersiwn newydd o Yma o Hyd ei rhyddhau sy'n cyfuno'r trac sain gwreiddiol gyda lleisiau corawl cefnogwyr Cymru - Y Wal Goch.

"Pan glywes i bod hi yn mynd i fod yn gân swyddogol y Gymdeithas Bêl-droed ac anthem genedlaethol newydd y tîm ar gyfer Cwpan y Byd 2022, wel o'dd o'n deimlad bendigedig, hynny yw gwych," meddai.

Yn ôl Dafydd Iwan, mae'r gynulleidfa fyd-eang fydd yn clywed Yma o Hyd yn Qatar yn mynd i roi llwyfan i Gymru a'r Gymraeg fel na welwyd o'r blaen.

"Wrth gwrs, y ffaith bod 'na gân Gymraeg, hollol Gymraeg, yn cael ei harddel fel hyn gan Gymru ben baladr a Chymry Cymraeg a di-Gymraeg.  Fydd o'n gyfle dwi'n meddwl i ni ddangos i'r byd bod Cymru yn rywbeth mwy nag enw ar fap, ynde?  Bod 'na hanes 'ma, bod 'na ddiwylliant 'ma, bod 'na iaith arall 'ma, a bod 'na ganu, ac ma' 'na ysbryd.  Felly, cyffrous iawn." 

Bydd Yma o Hyd i’w gweld ar S4C am 20:00 nos Sul, ac ar S4C Clic.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.