Economi yn lleihau 0.2% yn y tri mis hyd at fis Medi
Roedd yr economi wedi lleihau 0.2% yn y tri mis hyd at fis Medi, yn ôl y ffigyrau diweddaraf.
Mae'r amcangyfrif misol ar gyfer mis Medi yn dangos fod Cynnyrch Mewnwladol Crynswth (GDP) wedi disgyn 0.6%, ond cafodd yr ŵyl y banc ar gyfer Angladd Gwladol y Frenhines effaith ar hynny.
Fe wnaeth y diwydiannau gwasanaethau, cynhyrchu ac adeiladu arafu yn ystod y cyfnod.
Disgynnodd gwariant go iawn aelwydydd 0.5% yn Chwarter 3 2022.
Mae'r Canghellor Jeremy Hunt wedi dweud nad yw'r Deyrnas Unedig yn "ddiogel" rhag lefelau chwyddiant uchel.
"Dydyn ni ddim yn ddiogel rhag yr her fyd-eang o chwyddiant uchel a thwf araf sydd wedi ei yrru gan ryfel anghyfreithlon Putin yn Wcráin a'i ddefnydd o gyflenwadau nwy fel arf," meddai.
"Dwi ddim yn twyllo fy hun nad oes ffordd anodd o'n blaen - un fydd yn galw am benderfyniadau hynod o anodd i adfer hyder a sefydlogrwydd economaidd. Ond i wireddu twf hirdymor, cynaliadwy, mae angen i ni afael mewn chwyddiant, cyd-bwyso'r llyfrau a chael dyled i ddisgyn. Nid oes ffordd arall.
"Tra bo economi'r byd yn wynebu cythrwfl eithafol, mae gwytnwch sylfaenol economi Prydain yn achos optimistiaeth yn yr hir dymor."