Dyn yn gwadu llofruddio ei bartner ym Môn
Mae dyn sydd wedi'i gyhuddo o ladd ei bartner ar Ynys Môn wedi gwadu ei llofruddio wrth ymddangos yn y llys ddydd Iau.
Cafodd corff Buddug Jones ei ddarganfod yn ei thŷ ger Caergybi ym mis Ebrill eleni. Roedd y fenyw 48 oed wedi dioddef anafiadau difrifol i'w phen.
Yn ystod yr achos yn Llys y Goron Caernarfon, fe wnaeth partner Ms Jones, Colin Milburn, 52, wadu ei llofruddiaeth.
Clywodd y llys fod Mr Milburn yn cysgu yn ei gar yn yr wythnos cyn marwolaeth Ms Jones wedi i'r cwpl gweryla. Daw hyn wedi i Mr Milburn gyhuddo Ms Jones o fod yn anffyddlon.
Wrth roi tystiolaeth yn ystod ei amddiffyniad, fe wnaeth Mr Milburn wadu llofruddio ei bartner gan ddweud y gwnaeth ddarganfod ei chorff yn eu hystafell wely.
Mae'r achos yn parhau.