
O Bendyrus i Gwpan y Byd: Cyhoeddi carfan Cymru ar gyfer Qatar
O Bendyrus i Gwpan y Byd: Cyhoeddi carfan Cymru ar gyfer Qatar
Mae enwau carfan tîm pêl-droed Cymru ar gyfer Cwpan y Byd yn Qatar wedi eu cyhoeddi.
Dyma'r tro cyntaf ers 1958 i Gymru chwarae yn rowndiau terfynol Cwpan y Byd ac fe gafodd y garfan ei chyhoeddi ym Mhendyrus yn y Rhondda, sef pentref genedigol rheolwr Cymru, Robert Page, nos Fercher.
Cyfanswm o 26 chwaraewr oedd yn cael eu dewis, ac yn ffodus i gefnogwyr Cymru, mae'r enwau cyfarwydd i gyd yn y garfan.
O Gareth Bale i Aaron Ramsey, ac o Ben Davies i Wayne Hennessey, mae gan Rob Page brofiad chwaraewyr sydd wedi chwarae yn rhai o bencampwriaethau mwyaf y byd mewn hanes diweddar.
Mae Joe Allen hefyd wedi ei gynnwys yn y garfan er nad ydy wedi chwarae i Abertawe ers canol mis Medi oherwydd anaf i'w goes.
Er eu bod bellach yn chwarae yn Adran Dau, mae'r chwaraewyr profiadol Jonny Williams a Chris Gunter hefyd yn rhan o'r garfan.

Rhai o'r chwaraewyr sydd heb eu cynnwys yn y garfan ydy Tyler Roberts, sydd wedi anafu, Rabbi Matondo, ac mae enw ymosodwr ifanc yr Elyrch, Oli Cooper, yn absennol hefyd.
Enw ychydig yn annisgwyl efallai i rai cefnogwyr ydy amddiffynwr Luton, Tom Lockyer, sydd ddim wedi bod yn aelod rheolaidd o'r garfan dros y misoedd diwethaf.
Bydd gêm agoriadol Cymru yng Nghwpan y Byd Qatar yn erbyn yr UDA ar 21 Tachwedd.

Carfan tîm pêl-droed Cymru:
1) Wayne Hennessey
2) Danny Ward
3) Adam Davies
4) Ben Davies
5) Ben Cabango
6) Tom Lockyer
7) Joe Rodon
8) Chris Mepham
9) Ethan Ampadu
10) Chris Gunter
11) Neco Williams
12) Connor Roberts
13) Sorba Thomas
14) Joe Allen
15) Matthew Smith
16) Dylan Levitt
17) Harry Wilson
18) Joe Morrell
19) Jonny Williams
20) Aaron Ramsey
21) Rubin Colwill
22) Gareth Bale
23) Kieffer Moore
24) Mark Harris
25) Brennan Johnson
26) Dan James