Cymro'n dysgu'r heniaith i ddisgyblion yn yr UDA cyn Cwpan y Byd
Cymro'n dysgu'r heniaith i ddisgyblion yn yr UDA cyn Cwpan y Byd
Gyda 12 diwrnod yn unig tan y bydd Cymru yn chwarae eu gêm gyntaf yng Nghwpan y Byd, mae Cymro wedi bod yn dysgu Cymraeg i ddisgyblion yn yr UDA, sef gwrthwynebwyr cyntaf tîm Rob Page yn Qatar.
Yn wreiddiol o'r Gaerwen ar Ynys Môn, mae Jason Edwards bellach wedi ymgartrefu yn Pittsburgh yn yr UDA.
O ddydd i ddydd, mae Jason yn hyfforddwr pêl-droed ond mae'n helpu mewn ysgol gynradd yn y ddinas ac roedd yn awyddus i ddysgu ychydig am Gymru a'r iaith Gymraeg i'w ddisgyblion, ac i ddangos fod yna fywyd tu hwnt i'r UDA.
"Dwi'n meddwl bod o'n anodd yn enwedig mewn gwlad mor fawr i ca'l ryw fath o ddealltwriaeth bod yna rwbath arall yn bodoli," meddai Jason.
"Dwi'n meddwl bod 'na lot wedi ca'l lot o hwyl jyst i weld o lle dwi'n dod yn wreiddiol, 'dan ni'n defnyddio Google Earth lot, a 'dan ni'n mynd trwy'r byd i gyd a gweld y cyfandir lle mae Cymru so dwi'n meddwl bod o'n wych bo' ni'n ca'l gweld fwy o'r byd, yn enwedig pan ma'n dod i Gymru, dwi'n meddwl bod o'n wych."
Yn ôl Jason, mae hi'n bwysig bod y disgyblion yn "cael gweld mwy o'r byd."
"Ma'n bwysig bo' nhw'n ca'l gweld mwy o'r byd eniwe 'lly ac wrth gwrs, be' dwi'n 'wbod ora' ydi Cymru, dwi 'di byw 'na rhan fwya o'm mywyd i so dyna be' o'n i isio dod i'r bwrdd rili.
"Wrth gwrs, dwi'n falch iawn o fod yn Gymro a balch iawn o'r wlad dwi'n dod o felly unrhyw excuse rili i ca'l rhoi Cymru ar y map, dwi'n gêm iddi."
Mae Jason yn gobeithio y bydd dealltwriaeth y disgyblion o Gymru yn mynd o nerth i nerth, ac eisioes wedi gwneud cysylltiadau gydag ysgolion yn ei famwlad.
"Be' 'dan ni 'di bod yn neud ydi setio fyny penpals adra yng Nghymru so yn ôl i'n ysgol gynradd i yn Llanfairpwll, o'n i'n siarad efo Mr Pleming yn fan 'na so 'dan ni am ca'l llythyra yn ôl gan Ysgol Llanfairpwll.
"Ysgol y Tywyn yn Holyhead, 'dan ni 'di cysylltu i neud penpals efo nhw hefyd ac un ysgol arall tu allan i Wrecsam so 'dan ni'n mynd i gario 'mlaen a gweithio o ran stwff sgwennu a bod nhw'n mynd nôl adra i Gymru a gobeithio ca'l bach o diwylliant drosodd o un ffordd i'r llall."