Rishi Sunak yn 'difaru' penodi Gavin Williamson i'w gabinet
Mae'r Prif Weinidog Rishi Sunak wedi dweud ei fod yn "difaru" penodi Syr Gavin Williamson i'w gabinet yn sgil honiadau o fwlio yn erbyn y cyn-ysgrifennydd addysg.
Fe wnaeth Syr Gavin, gafodd ei benodi yn weinidog heb bortffolio pan ddaeth Mr Sunak yn brif weinidog, ymddiswyddo nos Fawrth ar ôl pythefnos yn y swydd.
Daeth hyn wedi i gŵyn swyddogol gael ei gwneud yn erbyn y gweinidog, wedi i gyn-was sifil ei gyhuddo o ddweud y dylai "hollti ei wddf" pan yr oedd yn gweithio fel Ysgrifennydd Amddiffyn y DU.
Fe wnaeth y gŵyn ychwanegu rhagor o bwysau ar Syr Gavin wedi i honiadau ddod i'r gweill ei fod wedi anfon negeseuon sarhaus at cyn Brif Chwip, Wendy Morton.
Wrth siarad yn ystod sesiwn Cwestiynau i'r Prif Weinidog ddydd Mercher, dywedodd Rishi Sunak fod Syr Gavin wedi "gwneud y penderfyniad cywir" wrth ymddiswyddo.
Ychwanegodd y prif weinidog nad oedd yn ymwybodol o'r honiadau penodol yn erbyn Syr Gavin Williamson.
"Dwi'n credu y dylai pobl o fewn bywyd cyhoeddus drin eraill gyda pharch a dyma'r gwerthoedd fe fydd y llywodraeth yma yn ei bwysleisio," meddai.
Fe wnaeth arweinydd y Blaid Lafur, Syr Keir Starmer, daro nôl yn erbyn y prif weinidog, gan ei alw yn "wan" am beidio diswyddo Syr Gavin yn y lle cyntaf.