Newyddion S4C

Arestio dau fachgen dros graffiti hiliol ym Mhort Talbot

08/11/2022
Heddlu.
Heddlu.

Mae heddlu wedi arestio dau fachgen yn eu harddegau mewn cysylltiad â graffiti hiliol ym Mhort Talbot. 

Cafodd y bechgyn, sydd o Bort Talbot a Thonyrefail, eu harestio ddydd Mawrth ar amheuaeth o achosi difrod troseddol ar sail rhesymau hiliol a chrefyddol. 

Dywedodd Uwch-arolygydd Heddlu De Cymru,  Stephen Jones, nad yw "ymddygiad atgas yn cael ei dderbyn." 

"Rydw i eisiau tawelu meddyliau'r gymuned leol trwy gadarnhau bod ymchwiliad llawn yn cael ei gynnal er mwyn sicrhau bod y bobl sy'n gyfrifol, yn atebol i'w hymddygiad afiach."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.