Cymeradwyo cynlluniau i ehangu gwasanaethau yn Chwarel y Penrhyn

Mae cynlluniau wedi eu cymeradwyo ar gyfer ehangu gwasanaethau yn Chwarel y Penrhyn ym Methesda.
Bydd hyn yn golygu y bydd gwasanaethau yn parhau hyd at 2035, gyda gwaith pellach i adfer y safle tan 2037.
Yn ôl y cais, mae'r estyniad yn golygu y gall 115 o swyddi gael eu sicrhau.
Bydd y datblygiad yn golygu y bydd 250,000 tunnell o lechi to porffor ac 1.9 miliwn tunnell o lechi addurnol yn gallu cael eu hechdynnu o'r chwarel.
Darllenwch fwy yma.