Newyddion S4C

Cynnal cynhadledd COP Ifanc yng Nghymru am y tro cyntaf

YCA demo / Newid hinsawdd

Bydd Caerdydd yn cynnal ei digwyddiad COP ei hun wrth i'r gynhadledd hinsawdd ddigwydd yn Yr Aifft wythnos hon.

Dyma fydd y tro cyntaf i'r uwchgynhadledd COP Ifanc gael ei chynnal yng Nghymru.

Mae disgwyl i bobl ifanc o Gymru gyfan fynd i'r digwyddiad deuddydd yn y brifddinas.

Bydd yn gyfle i'r bobl ifanc sgwrsio gydag arweinwyr gwleidyddol, cwrdd â sefydliadau amgylcheddol a chlywed safbwyntiau byd-eang ar newid hinsawdd.

Mae'r digwyddiad COP yng Nghaerdydd wedi ei seilio ar gynhadledd COP y Cenhedloedd Unedig.

Fe deithiodd naw person ifanc, sy'n aelodau o Lysgenhadon Hinsawdd Ifanc, o Gymru i Glasgow ar gyfer cynhadledd COP26.

Mae'r Prif Weinidog Rishi Sunak, a'r cyn-Brif Weinidog Boris Johnson, yn mynychu'r uwchgynhadledd yn Yr Aifft yr wythnos hon i drafod materion yn ymwneud â'r hinsawdd.

Gobaith trefnwyr y digwyddiad yw y bydd cyfle gan bobl ifanc yng Nghymru i bwysleisio pwysigrwydd dal ati, wrth fynd i'r afael â newid hinsawdd.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.