Cwpan y Byd: FIFA yn rhoi ‘arian a pherthnasau gwleidyddol’ o flaen hawliau dynol

Y Byd ar Bedwar 07/11/2022

Cwpan y Byd: FIFA yn rhoi ‘arian a pherthnasau gwleidyddol’ o flaen hawliau dynol

Mae un o gyn-chwaraewr tîm cenedlaethol Cymru, Laura McAllister, yn dweud bod angen newid a moderneiddio system llywodraethu FIFA wrth i dwrnamaint Cwpan y Byd agosáu. 

Mae’r gymdeithas sy'n rheoli pêl-droed yn fyd eang wedi dod dan feirniadaeth ers i Qatar ennill yr hawl i gynnal y gystadleuaeth yn 2010. Mae’r penderfyniad wedi bod yn un dadleuol oherwydd hanes hawliau dynol y wlad. 

Mewn cyfweliad gyda’r rhaglen materion cyfoes, Y Byd ar Bedwar, fe ddywedodd Laura McAllister fod dim digon o fenywod ar gyngor FIFA.

“Dyma un o’r problemau am roi’r twrnamaint i rywle fel Qatar. Ond penderfyniad FIFA oedd e, ac mae’n ymddangos y problemau ynglŷn â’r llywodraethiant pêl-droed o safbwynt byd-eang yma. 

“Does dim chwarae teg o gwbl ac mae arian a pherthnasau gwleidyddol yn cyfri am lot mwy na hawliau ac yn y blaen.

“Fe wnes i sefyll mewn etholiad blwyddyn ddiwethaf i fod ar gyngor FIFA. Does dim digon o ferched ar gyngor FIFA, dim digon o ferched sy’n gweithio fel execs ac ma’r system llywodraethiant yn hollol hen ffasiwn nawr. 

Image
Laura Macallister
Mae Laura McAllister yn gyn-chwaraewr tîm cenedlaethol Cymru.

Yn rhan o’r gymuned LHDTQ+ ei hun, mae Laura McAllister yn mynd i Doha ar gyfer Cwpan y Byd fel rhan o’i gwaith gyda Chymdeithas Bêl-droed Cymru a Llywodraeth Cymru. 

Mae nifer wedi cwestiynu’r penderfyniad o gynnal y twrnamaint yng Nghatar dros y deg mlynedd ddiwethaf oherwydd cyfreithiau ac agweddau’r wlad tuag at bobl hoyw, yn ogystal â gweithwyr mudol.  

Yn ôl cyfreithiau Qatar, fe all cwpwl hoyw gael carchar o hyd at saith mlynedd am dorri’r gyfraith sy’n gwahardd gweithred rywiol rhwng dau ddyn neu ddwy fenyw.   

“Dydy neb yn gyfforddus gyda’r sefyllfa yna fod pobl hoyw ddim yn cael unrhyw fath o statws swyddogol, ac wrth gwrs mae’n wahaniaethau llwyr hefyd yn erbyn pobl hoyw mas yng Qatar. Ar y llaw arall, dim ein dewis ni yw cael y twrnament ‘na,” meddai Laura. 

“Ac i fi, mae’n well gwneud rhywbeth a chyfrannu at yr ymdrechion i godi llais Cymru a chodi llais pobl sydd ddim yn mynd i Qatar, heb jyst peidio mynd ac aros gartref."

Image
Stadiwm yn Qatar

Mae’r Goruchaf Bwyllgor, sy’n trefnu Cwpan y Byd, wedi datgan yn barod y bydd yna groeso mawr i gefnogwyr o bob hîl, crefydd a rhywioldeb. Maent yn dweud eu bod nhw’n gyffrous am groesawu pawb a chyflwyno’r byd i ddiwylliant a thraddodiadau'r wlad. Fe gafodd yr asiantaeth ei sefydlu gan Lywodraeth Qatar yn 2011. 

Mewn ymateb, fe ddywedodd FIFA eu bod wedi cymryd mesurau pendant i hyrwyddo amrywiaeth ar bob lefel o'r gêm.

“Mae Cyngor FIFA wedi’i greu gan 36 aelod o wahanol genhedloedd, gan gynnwys chwe menyw. Mae gweinyddiaeth FIFA yn cynnwys unigolion o 100 o genhedloedd ac o gefndiroedd amrywiol, gyda 41% o’r rheiny yn fenywod.”

Fe wnaeth FIFA ychwanegu bod ganddyn nhw Strategaeth Gynaladwyedd a bod y twrnament wedi bod yn hanfodol i’r newidiadau i'r gweithlu sy’n cynnwys datgymalu’r system kafala a chyflwyno isafswm cyflog. 

Bydd rhaglen arbennig, Y Byd ar Bedwar: Cost Cwpan y Byd, yn cael ei darlledu nos Lun am 20:00 ar S4C, S4C Clic a BBC iPlayer. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.