Rhybudd melyn am wyntoedd cryfion i rannau o Gymru
Mae'r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd melyn am wyntoedd cryfion i rannau o Gymru.
Bydd yn dod i rym am 07:00 fore Mercher ac yn parhau tan 20:00 yn y nos.
Mae rhybuddion y gallai effeithio ar drafnidiaeth gyda rhai pontydd o bosib yn gorfod cau.
Mae pryder y gallai hynny effeithio ar drefniadau teithio rhwng Ynys Môn a Gwynedd, gyda Phont Britania yn unig ar agor ar hyn o bryd oherwydd gwaith cynnal a chadw brys ar Bont Y Borth.
Mae'r Swyddfa Dywydd hefyd yn rhybuddio y gallai rhai ardaloedd golli cyflenwad trydan am gyfnod yn sgil y gwyntoedd.
Mae hyrddiadau o 55 i 60 m.y.a yn debygol, yn enwedig mewn ardaloedd arfordirol ac agored, ac mae glaw trwm i'w ddisgwyl hefyd yng Nghymru ddydd Mercher.
Fe fydd y rhybudd yn effeithio ar y siroedd canlynol:
Ynys Môn
Gwynedd
Conwy
Abertawe
Ceredigion
Sir Gâr
Sir Benfro