Kit Connor: Seren Heartstopper yn cael ei 'orfodi i ddod allan' yn ddeurywiol
Mae seren Heartstopper Kit Connor yn dweud ei fod wedi ei "orfodi i ddod allan" yn ddeurywiol.
Mae'r gyfres sy'n dilyn hanes dau fachgen yn nyddiau cynnar eu perthynas yn dangos siwrnai cymeriad Connor, Nick, wrth iddo ddod i delerau gyda'i rywioldeb.
Mewn neges ar Twitter nos Lun, dywedodd: "Dwi'n ddeurywiol. Llongyfarchiadau am orfodi person 18 oed i ddod allan.
"Dwi'n meddwl bod rhai ohonoch wedi colli pwynt y sioe," ychwanegodd.
Mae'r rhaglen, sydd ar hyn o bryd yn ffilmio ei hail gyfres, wedi ei chyfarwyddo gan y cyfarwyddwr o Gymru Euros Lyn.
Wrth ymateb i neges Connor, dywedodd Alice Oseman, awdur y gyfres a'r nofelau graffeg gwreiddiol: "Dwi'n wirioneddol methu deall sut mae pobl yn gallu gwylio Heartstopper ac yna gorfoleddu wrth dreulio'u hamser yn dyfalu am rywioldeb a beirniadu'n seiliedig ar stereoteipiau."