Seiclwr yn marw mewn gwrthdrawiad yng Nghaerdydd
31/10/2022
Mae dyn 61 oed wedi marw tra'n seiclo yng Nghaerdydd nos Wener.
Cafodd Ian Jones, o ardal Y Mynydd Bychan yn y brifddinas, ei gludo i Ysbyty Athrofaol Cymru yn dilyn y gwrthdrawiad ar Heol Caerffili .
Er gwaethaf ymdrechion y gwasanaethau brys, bu farw'r tad i chwech o'i anafiadau.
Wrth roi teyrnged iddo, dywedodd teulu Mr Jones ei fod yn "ŵr bonheddig a oedd yn ysbrydoliaeth i unrhyw un cafodd y pleser o'i nabod."
"Bu'n mwynhau a charu cael ei deulu o'i gwmpas."
Mae Heddlu De Cymru wedi dechrau ymchwiliad, ac yn annog unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu â nhw.