Dyn 66 oed yn gyfrifol am daflu bomiau petrol at ganolfan brosesu mudwyr
31/10/2022
Mae Heddlu Caint wedi cadarnhau mai dyn 66 oed oedd yn gyfrifol am daflu bomiau petrol at ganolfan brosesu mudwyr yn Dover, Caint.
Cafodd y dyn o High Wycombe ei ddarganfod yn farw ger gorsaf betrol. Cadarnhaodd yr heddlu bod y dyn wedi teithio i'r ganolfan mewn car, a bod ganddo dau i dri o fomiau. Cafodd dyfais arall ei darganfod yng ngherbyd y dyn 66 oed.
Cafodd dau berson fan anafiadau y tu mewn i'r ganolfan. Bu'n rhaid symud 700 o fudwyr i ganolfan Manston oherwydd y digwyddiad.
Mae ymholiadau Heddlu Caint yn parhau.