Lula da Silva yn ennill etholiad arlywyddol Brasil
Mae Lula da Silva wedi ennill etholiad arlywyddol Brasil, wedi brwydr agos yn erbyn yr arlywydd presennol, Jair Bolsonaro.
Enillodd Mr da Silva, o'r asgell chwith, 50.8% o'r pleidleisiau tra gwnaeth Mr Bolsonaro, o'r asgell dde, hawlio 49.2%,
Roedd Mr da Silva yn arlywydd y wlad rhwng 2003 a 2010 ac mae ei fuddugoliaeth yn nodi'r tro cyntaf ers 1985 i'r arlywydd presennol fethu â chael ei ail-ethol.
Mae Mr da Silva yn dychwelyd fel arlywydd wedi iddo gael ei garcharu yn 2018. Fe olygodd hynny nad oedd modd iddo sefyll yn yr etholiad y flwyddyn honno, gan alluogi Mr Bolsonaro i sicrhau pedair blynedd o wleidyddiaeth asgell dde.
Brasil yw’r bedwaredd wlad ddemocrataidd fwyaf yn y byd ac mae dros 156 miliwn o bobl yn gymwys i bleidleisio.
Fe fydd yr enillydd yn dechrau fel arlywydd ym mis Ionawr.