Creu murlun enfawr o Diego Maradona yn Buenos Aires
30/10/2022
Mae artist wedi creu murlun enfawr o'r pêl-droediwr athrylithgar Diego Maradona yn ninas Buenos Aires i nodi'r dyddiad pan fyddai wedi bod yn 62 oed.
Bu farw Maradona yn 60 oed yn 2020.
Mae'r artist Martín Ron wedi creu darlun ohono yn annog ei gyd-chwaraewyr yn ystod gêm derfynol Cwpan y Byd 1990 yn erbyn yr Almaen.
Er mai colli oedd hanes yr Ariannin yn y gêm honno, mae Ron wedi dylunio tair seren ar grys Maradona - dwy am guro Cwpan y Byd yn 1978 a 1986, a'r seren olaf mewn gobaith am lwyddiant yn Qatar ym mis Tachwedd.