Newyddion S4C

Cau Pont y Borth yn 'gyfle i edrych ar fesurau newydd' i osgoi traffig

Nation.Cymru 29/10/2022
Pont y Borth

Mae ymgyrchwyr wedi dweud bod angen ystyried mesurau newydd i liniaru effeithiau traffig rhwng Ynys Môn a'r tir mawr, ar ôl i Bont y Borth gau yn ddirybudd i draffig wythnos yn ôl.

Dywedodd llefarydd ar ran y Rhwydwaith Gweithredu Trafnidiaeth, TAN Cymru, fod cau'r bont yn gyfle i edrych o'r newydd ar ffyrdd amgen o deithio yn yr ardal i osgoi tagfeydd i'r dyfodol.

Cafwyd cryn ymateb yn lleol i'r newyddion fod y bont i gau, yn dilyn penderfyniad Llywodraeth Cymru i atal traffig ar y bont ar ddydd Gwener 21 Hydref.

Wrth gyhoeddi'r newyddion fod y bont i gau, dywedodd llefarydd ar ran Priffyrdd A55 y DU "tra bod y digwyddiad yma yn creu aflonyddwch, mae'n rhaid i ni weithredu er budd diogelwch y cyhoedd."

Fe all y bont fod ar gau tan ddechrau 2023.

Darllenwch ragor yma.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.