Newyddion S4C

Dathlu hunaniaeth fenywaidd drwy bopeth 'gwrachaidd'

29/10/2022

Dathlu hunaniaeth fenywaidd drwy bopeth 'gwrachaidd'

Mae angen ail-ddifinio gwrachod o'r darlun traddodiadol sydd gan gymdeithas ohonynt, yn ôl un sydd yn ymddiddori yn y pwnc.

Bellach mae bod yn "wrachaidd" yn ffordd newydd o ddathlu hunaniaeth fenywaidd, yn ôl Mari Elen Jones, sydd yn cyflwyno podlediad 'Gwrachod Heddiw,' sydd yn dathlu menywod sydd yn herio'r drefn. 

Mae Mari yn uniaethu gyda'r menywod gafodd eu herlyn fel gwrachod yn y gorffennol am danseilio confensiwn bywyd pob dydd. 

Dywedodd ei bod yn disgrifio'i hyn fel gwrach er mwyn taro'n ôl yn erbyn y sarhad mae menywod wedi ei ddioddef dros y canrifoedd. 

"Mae'r gair gwrach wedi newid ystyr rŵan ," meddai wrth Newyddion S4C. 

"Mae lot o ferched dim yn gweld hi fel rhywbeth negyddol rhagor ond yn lle yn rhywbeth positif.

"Mae'n rhywbeth i ddathlu, i ni ymfalchio yn yr hyn sydd yn gwneud ni'n wahanol.

"I fi mae bod yn wrach yn bod yn gyfforddus yn pwy yw ti, a dathlu pwy wyt ti ac ymfalchio yn y pethau mae pobl wedi ei sathru arnoch chi o'r blaen."

Image
Gwrach
Mae gwrachod Mari Elen Jones ychydig yn wahanol i'r rhai ni'n gweld fel arfer 

Fe fydd dathliad o bopeth gwrachaidd yn cael ei gynnal yn Nghanolfan Gelfyddydau Pontio ym Mangor dros y penwythnos. 

Mae 'Sabbath y Gwrachod' yn ŵyl ffilmiau arswyd sydd yn croesawu pobl sydd gyda diddordeb mewn dewiniaeth ac arswyd, gan gynnwys gwrachod. 

Fe fydd Mari yn recordio pennod byw o'i phodlediad fel rhan o'r ŵyl, ac yn gobeithio denu mwy o bobl i ffordd wrachaidd o fyw. 

"Swn i wrth fy modd gyda chynulleidfa newydd sydd yn barod i gwestiynu os ydyn nhw'n barod i ddathlu'r ochr wrachaidd o'u hunain," meddai.

"Mae wedi heplu fi i ddod yn berson fwy hyderus yn fi fy hun. So os mae rhywun yn teimlo bod nhw eisiau dysgu mwy am eu hunain, mae'n y lle i ddod."

Er i Mari ddweud y gall unrhyw un fod yn wrach, mae'n credu bod yna gysylltiad arbennig rhwng Cymru a phethau gwrachaidd. 

"Dwi meddwl bod e yno ni fel cenedl i ddathlu pethau gwrachaidd," meddai.

"Mae gymaint o ferched wedi cysylltu gyda fi hefo straeon o hanes teuluol o mam nhw'n fod yn wrach neu nain nhw'n bod yn wrach.

"Dwi meddwl bo ni'n mwy agored i gredu ynddo fo, cafon ein magu yn gwylio Rala Rwdins o'r diwedd!"

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.