Rihanna yn rhyddhau cân newydd am y tro cyntaf ers 2016
28/10/2022
Mae Rihanna wedi rhyddhau ei sengl gyntaf ers chwe blynedd.
Mae'r gân newydd, Lift Me Up, wedi'i recordio ar gyfer y ffilm Black Panther: Wakanda Forever, bydd yn ymddangos mewn sinemâu ar 11 Tachwedd.
Fe wnaeth y gantores 34 oed ryddhau cerddoriaeth unigol ddiwethaf yn 2016.
Mewn neges ar Twitter fore dydd Gwener (amser y DU) fe wnaeth Rihanna rannu linc i’r gân newydd.
#LiftMeUp https://t.co/QX66x4obas
— Rihanna (@rihanna) October 28, 2022
Dywedodd cyfarwyddwr y ffilm, Ryan Coogler, fod rhan y gantores yn y prosiect yn ffordd o anrhydeddu y diweddar Chadwick Boseman.