Beirniadu Rishi Sunak am ddweud na fydd yn mynd i COP27
Mae Rishi Sunak wedi'i feirniadu am "ddiffyg arweinyddiaeth" am ddweud na fydd yn mynd i'r gynhadledd hinsawdd COP27.
Fe wnaeth Rhif 10 Downing Street gadarnhau ddydd Iau na fydd y prif weinidog yn mynychu'r gynhadledd yn Yr Aifft fis nesaf.
Cyhoeddodd Rhif 10 hefyd na fydd gan y gweinidog amgylchedd, Graham Stuart, yr hawl i fynychu cyfarfodydd Cabinet rhagor.
Daw hyn flwyddyn yn unig wedi i'r DU gynnal COP26 yng Nglasgow ac mae'r penderfyniad wedi denu beirniadaeth chwyrn gan y gwrthbleidiau.
Dywedodd Ed Miliband, ysgrifennydd cysgodol y Blaid Lafur dros newid hinsawdd, fod y penderfyniad yn cynrychioli "diffyg arweinyddiaeth ar newid hinsawdd”.
"Beth mae Rishi Sunak yn amlwg methu deall yw bod taclo newid hinsawdd ddim jyst yn fudd i'n henw da a safle rhyngwladol, ond hefyd yn gyfle ar gyfer biliau is, swyddi a diogelwch ynni."
Ychwanegodd Caroline Lucas, yr unig AS o'r Blaid Werdd yn San Steffan, y dylai Mr Sunak "deimlo cywilydd" dros y penderfyniad.
"Mae penderfyniad y prif weinidog newydd i beidio mynychu COP27 yn tanseilio unrhyw honiad o arweinyddiaeth ar newid hinsawdd - ac am ffordd gywilyddus o orffen arlywyddiaeth y DU o Cop."
Mae llefarydd ar ran Rhif 10 yn dweud bod Mr Sunak yn ffocysu ar faterion domestig am y tro, gan gynnwys paratoadau ar gyfer datganiad ariannol yng nghanol mis Tachwedd.
Er hyn, ychwanegodd Rhif 10 nad yw'r penderfyniad yn newid ymrwymiad y Llywodraeth i daclo newid hinsawdd.