Cynnal darlith gyntaf Cerflun Betty Campbell yn y Senedd
Cafodd ddarlith flynyddol gyntaf yn enw Betty Campbell, y pennaeth du cyntaf mewn ysgol yng Nghymru, ei chynnal yn y Senedd ddydd Iau.
Roedd y ddarlith yn canolbwyntio ar sut y gwnaeth Ms Campbell weithio i wella a hybu cydraddoldeb ac amrywiaeth yng Nghymru a thu hwnt.
Yr Athro Olivette Otele oedd yn siarad yn y digwyddiad, a dywedodd fod "Betty Campbell wedi bod yn hollbwysig yn fy nhaith i fod yn ymgyrchydd ysgolheigaidd. Mae hi'n fraint fawr i siarad am y tro cyntaf yn y ddarlith."
Mae hyn yn nodi blwyddyn ers dadorchuddio cerflyn o'r athrawes yng Nghaerdydd.
Roedd cyfle hefyd i weld darllediad o raglen ddogfen Black and Welsh yn ogystal â sgwrs gyda'r cyfarwyddwr, Liana Stewart, a gafodd ei magu yn Nhre-biwt.