Newyddion S4C

Noel Mooney: 'Cwpan y Byd yw ein moment Owain Glyndŵr'

27/10/2022

Noel Mooney: 'Cwpan y Byd yw ein moment Owain Glyndŵr'

Ar drothwy Cymru yn chwarae yng Nghwpan y Byd am y tro cyntaf ers 1958, mae Prif Weithredwr y Gymdeithas Bêl-droed wedi disgrifio chwarae yn Qatar fel eu "moment Owain Glyndŵr."

Mewn cyfweliad gyda Newyddion S4C, dywedodd Noel Mooney bod chwarae yn erbyn gwledydd mwyaf y byd yng Nghwpan y Byd fel moment Owain Glyndŵr i Gymru a'i phobl. 

"Cyrraedd Cwpan y Byd yw'r uchelgais i unrhyw gymdeithas bêl-droed, felly i ni fel gwlad o tua 3.5 miliwn person i fynd allan ochr yn ochr â gwledydd gyda channoedd ar gannoedd o filiynau o bobl, dyw e ddim ond yn wych i'r Gymdeithas Bêl-droed a phobl y wlad, ond y genedl.

"Mae'n cymryd ni nôl i gyfnod Owain Glyndŵr a'i frwydrau ef, ac i ni'n defnyddio hwnna. Rydym yn credu bod cystadlu yng Nghwpan y Byd fel ein moment Owain Glyndŵr, lle i ni'n dangos pwy i ni a pan i ni'n dirnad rhywbeth ein bod ni gallu ei gyflawni."

Fe ddaeth Noel Mooney yn Brif Weithredwr Cymdeithas Bêl-droed Cymru ym mis Awst 2021, ac yn y cyfnod hynny mae'r gymdeithas wedi rhoi cytundeb newydd i hyfforddwr Cymru, Rob Page.

Ers i Page gael ei benodi yn rheolwr dros dro ym mis Tachwedd 2020, mae Cymru wedi cyrraedd Cynghrair A yng Nghynghrair y Cenhedloedd UEFA ac wedi cyrraedd Cwpan y Byd. Cred Noel Mooney bod gan yr hyfforddwr a'r chwaraewyr ffydd yn yr hyn mae'r Gymdeithas yn ei wneud ar y cae ac oddi ar y cae.

"Mae gan y bois sy'n gwisgo'r crysau a'r tîm tu ôl y tîm ffydd yn yr hyn rydym yn ei wneud. Does dim amheuaeth yn ein meddyliau y byddwn yn rhoi bob dim sydd gennym i'r ddraig, i'r wlad, ac i ni mynd i wneud Cymru teimlo'n falch ohonom, yn fwy balch na maen nhw nawr.

"Ni'n profi'r cyfnodau gorau i Gymru fel cenedl ac i'r Gymdeithas Bêl-droed hefyd. Ein swydd ni yw hyrwyddo'r pêl-droed, a pa ffordd well o wneud hynny na mynd i Gwpan y Byd."

Cystadlu nid cyfrannu

Ni fydd angen i chi ddweud wrth gefnogwyr Cymru mai dyma Gwpan y Byd gyntaf y wlad ers 64 mlynedd.

Ond mae'r ddau cystadleuaeth Ewros mae Cymru wedi cystadlu ynddynt wedi profi llwyddiant enfawr, yn enwedig cyrraedd rownd cyn-derfynol EWRO 2016.

Bydd rhai cefnogwyr yn hapus gyda gweld Cymru yn chwarae eu gemau grŵp yn unig, ond mae Noel Mooney yn dweud bod Cymru yna i gystadlu, nid cyfrannu yn unig.

"Mae cyrraedd Cwpan y Byd fel ennill Cwpan y Byd i ni, achos bod ni heb fod yna ers cenedlaethau. Ond pan i ni yna, ni yna i gystadlu. Ni yna i roi ein marc ar y byd.

"Mae 'Cymru ar lwyfan y byd' yn swnio'n grêt, ac mae'n rhan o'n cynllun ni. Ond mae rhaid i ni berfformio ar y cae a gyda Rob (Page) a'i dîm a gyda'r chwaraewyr sydd wedi dod â ni i'r sefyllfa yma, mae gennym gyfle grêt i wneud rhywbeth sbesial iawn.

"Rydym yn hyderus iawn ein bod ni'n gallu gwneud yn dda iawn."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.