Newyddion S4C

Conwy: Lori'n cario 6,400 o ieir mewn gwrthdrawiad

26/10/2022
Ieir / Dofednod

Mae lori'n cario 6,400 o ieir wedi bod mewn gwrthdrawiad yng Nghonwy.

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub y Gogledd wedi cadarnhau eu bod yn ymateb i'r gwrthdrawiad.

Mae ffordd yr A5 yn Llangwm wedi ei chau.

Mae disgwyl y bydd yn parhau i fod ar gau tan yn ddiweddarach.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.