Gŵyl gelfyddydol Llais yn dychwelyd i’r brifddinas

Gŵyl gelfyddydol Llais yn dychwelyd i’r brifddinas
Mae gŵyl gelfyddydol ryngwladol Llais yn dychwelyd i Ganolfan Mileniwm Cymru yng Nghaerdydd.
Bydd yr ŵyl yn dechrau ddydd Mercher ac yn parhau tan ddydd Sul gan roi llwyfan i artistiaid rhyngwladol ac o Gymru.
Mae'r ŵyl yn cael ei chynnal bob dwy flynedd ac yn efelychu digwyddiadau fel Gŵyl Ryngwladol Caeredin, Manceinion, yr Holland Festival a Gŵyl d'Avignon.
Bydd Gwenno, a gafodd ei henwebu am Wobr Mercury, yn ymuno â Brett Anderson o Suede, Charles Hazlewood a Paraorchestra ar gyfer y perfformiad cyntaf o flaen cynulleidfa fyw. Bydd y perfformiad yn cynnwys fersiynau newydd o ganeuon am farwolaeth.
Mewn perfformiad arbennig i ddathlu ei ben-blwydd yn 80, bydd Gruff Rhys, Cate Le Bon, James Dean Bradfield, Sinfonia Cymru a House Gospel Choir yn ymuno â John Cale.
Bydd llwyfan Glanfa Canolfan Mileniwm Cymru yn cynnal tridiau o gerddoriaeth am ddim i’r cyhoedd. Gan ddechrau ar y nos Wener, bydd Race Council Cymru yn cynnal noson o artistiaid Du talentog o Gymru gan gynnwys y grŵp hip-hop o Gaerdydd Afro Cluster a’r Dabs Calypso Trio.
Ar y dydd Sul bydd y label recordiau indie eclectig Recordiau Noddfa yn cymryd yr awenau ac yn llwyfannu perfformiadau gan gynnwys Melin Melyn a 3 Hwr Doeth.
Drwy gydol yr ŵyl, bydd yr arddangosfa City of Sound yn dangos cipolwg o eitemau gan archif Hanes Miwsig Caerdydd, gydag eitemau fel posteri a thocynnau’n dod yn fyw drwy gyfweliadau â phobl o’r byd cerddoriaeth yng Nghaerdydd
Bydd yr ŵyl yn dechrau gyda seremoni'r Wobr Gerddoriaeth Gymreig a fydd yn cael ei chyflwyno gan Sian Eleri o BBC Radio 1.