Yr Urdd yn dechrau ar Daith Ysgolion Cwpan y Byd
Lai na mis cyn i bêl-droedwyr Cymru chwarae yn Qatar, bydd mudiad yr Urdd yn dechrau ar Daith Ysgolion Cwpan y Byd ddydd Mercher.
Bydd Adran Chwaraeon yr Urdd yn mynd ar daith am gyfanswm o bum wythnos, gan ymweld ag ysgolion cynradd pob chwaraewr sydd yng ngharfan tîm Cymru.
Gan ddechrau ym Miwmares ddydd Mercher yng nghyn ysgol gynradd gôl-geidwad Cymru, Wayne Hennessey, bydd yr Urdd hefyd yn ymweld â chyn ysgol Gareth Bale yn yr Eglwys Newydd, Caerdydd, a hefyd Ysgol Gynradd Cymraeg Caerffili, sef cyn ysgol Aaron Ramsey, ac Ysgol Gynradd Arberth, lle bu Joe Allen yn ddisgybl.
Byddant hefyd yn teithio i Hull, Nottingham a Warrington yn Lloegr i ymweld â chyn-ysgolion Dan James, Brennan Johnson a Tyler Roberts.
Mae cyfle i ddisgyblion fynd i sesiynau hyfforddi pêl-droed, clywed cyflwyniad am ymgyrch Cymru yn ogystal â thrafod yr iaith Gymraeg a'r diwylliant.
Daw'r fenter yn sgil amryw o brosiectau gan y mudiad er mwyn sicrhau fod pob plentyn yng Nghymru yn cael y cyfle i fod yn rhan o gyffro Cwpan y Byd.
Mae'r Urdd eisoes wedi cyhoeddi Jambori Cwpan y Byd sy'n digwydd ar-lein ar 10 Tachwedd, a bydd trydydd prosiect yn cael ei gyhoeddi yn yr wythnosau nesaf.