Newyddion S4C

Wynebau cyfarwydd yn ymuno â chabinet cyntaf Rishi Sunak

25/10/2022
Rishi Sunak Rhif 10 Flickr

Mae'r prif weinidog Rishi Sunak wedi ffurfio ei gabinet cyntaf, ddydd Mawrth.

Mae dau Aelod Seneddol o Gymru yn y cabinet, gydag aelod Mynwy David TC Davies wedi ei benodi'n Ysgrifennydd Cymru, a Simon Hart, yr Aelod Seneddol dros Orllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro, yn Brif Chwip newydd y llywodraeth. 

Mae Suella Braverman wedi ei phenodi'n Ysgrifennydd Cartref, wythnos yn unig wedi iddi ymddiswyddo o'r rôl honno, am anfon e-bost cyfrinachol o'i chyfeiriad e-bost personol.

Mae Dominic Raab yn ôl yn y cabinet fel Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd Amddiffyn.

Mae Michael Gove yn dychwelyd i fod yn Ysgrifennydd Codi'r Gwastad ar ôl i Boris Johnson ei ddiswyddo fis Gorffennaf 2022.

Victoria Prentis yw'r Twrne Cyffredinol. 

Steve Barclay yw Ysgrifennydd Iechyd newydd San Steffan.

Mae Oliver Dowden yn ôl yn y cabinet fel Canghellor Dug Caerhirfryn.

Mae Nadhim Zahawi wedi ei benodi'n Gadeirydd y Blaid Geidwadol a Grant Shapps bellach yn Ysgrifennydd Busnes, lai nag wythnos ers iddo gael ei benodi'n Ysgrifennydd Cartref gan Liz Truss.

Gillian Keegan fydd â chyfrifoldeb dros addysg yn Lloegr, wrth iddi hi gael ei phenodi'n Ysgrifennydd Addysg.   

Mel Stride yw'r Ysgrifennydd Gwaith a Phensiynau, a'r cyn Ysgrifennydd Iechyd, Dr Therèse Coffey yw'r Ysgrifennydd Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig. 

Parhad

Mae Penny Mordaunt a heriodd Rishi Sunak am yr arweinyddiaeth, wedi ei phenodi unwaith yn rhagor yn Arweinydd Tŷ’r Cyffredin.  

Mae Jeremy Hunt yn parhau fel Canghellor y trysorlys rai wythnosau wedi iddo gael ei benodi yn dilyn y Gyllideb Fechan.

Mae Michelle Donelan wedi ei hail benodi'n Ysgrifennydd Digidol, Diwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon.   

Mae James Cleverly yn parhau fel Ysgrifennydd Tramor o Gabinet Liz Truss ac mae Ben Wallace yn gwasanaethu ei drydydd Prif Weinidog fel Ysgrifennydd Amddiffyn.

Mae Mae Kemi Badenoch wedi ei hail benodi'n Ysgrifennydd Masnach Ryngwladol. 

Mae Chris Heaton-Harris yn parhau yn ei rôl fel Ysgrifennydd Gogledd Iwerddon, ac mae Alister Jack wedi ei ail benodi'n Ysgrifennydd Yr Alban.  

Yr Arglwydd True yw Arweinydd Ty'r Arglwyddi. 

Ymadawiadau

Gadawodd Ysgrifennydd Cymru, Syr Robert Buckland, ei rôl yn gynharach yn y dydd, cyn i Rishi Sunak gyhoeddi ei gabinet.

Mae Jacob Rees-Mogg wedi ymddiswyddo o'i rôl fel Ysgrifennydd Busnes ar ôl gwasanaethu yng nghabinet Boris Johnson a Liz Truss.

Mae Brandon Lewis a Ranil Jayawardena hefyd wedi ymddiswyddo fel Ysgrifennydd Cyfiawnder ac Ysgrifennydd yr Amgylchedd.

Yn ogystal, mae Simon Clarke wedi gadael ei rôl fel Ysgrifennydd Codi'r Gwastad a Kit Malthouse wedi gadael rôl yr Ysgrifennydd Addysg.

Mae Chloe Smith wedi gadael ei rôl fel Ysgrifennydd Gwaith a Phensiynau yn y cabinet a Syr Jake Berry wedi gadael ei rôl yntau fel Cadeirydd y Blaid Geidwadol.

Rôl flaenllaw arall sy'n mynychu'r cabinet, er nad yw'n aelod llawn, yw'r prif chwip ac fe gadarnhaodd Wendy Morton na fyddai'n hi'n parhau yn y rôl.

Mae Vicky Ford wedi gadael ei rôl hithau fel Gweinidog Datblygiad yn y Swyddfa Dramor.

Tra bydd Alok Sharma yn parhau fel Llywydd cynhadledd hinsawdd COP26, ni fydd yn mynychu'r cabinet bellach.

Cafodd Mr Sunak ei benodi yn arweinydd y Ceidwadwyr ddydd Llun, gan sicrhau cefnogaeth dros hanner yr Aelodau Seneddol Ceidwadol.

Daeth yn brif weinidog yn swyddogol ddydd Mawrth ar ôl iddo gyfarfod â'r Brenin Charles III ym Mhalas Buckingham.

Llun: Rhif 10/Flickr

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.