Newyddion S4C

Cyrraedd rowndiau nesaf Cwpan y Byd 'yn nwylo' merched Cymru

Newyddion S4C 21/10/2022

Cyrraedd rowndiau nesaf Cwpan y Byd 'yn nwylo' merched Cymru

Mae dyfodol merched Cymru yng Nghwpan y Byd yn "ein dwylo ni", medd prif hyfforddwr y tîm Ioan Cunningham. 

Fe fydd Cymru yn wynebu ei gêm olaf yng Ngrŵp A yn erbyn Awstralia yn ystod oriau mân bore Sadwrn. 

Gyda lle yn y rowndiau nesaf yn y fantol, fe all canlyniad y gêm benderfynu a yw Cymru yn parhau yn y gystadleuaeth neu'n hedfan adref. 

Er hyn, mae yna sawl posibiliad yn wynebu Cymru, gan gynnwys rhai lle maen nhw'n colli yn erbyn y Wallaroos ond yn dal i gyrraedd y rowndiau terfynol. 

Yn ystod Cwpan y Byd eleni, mae'r ddau dîm gorau o bob grŵp yn cyrraedd yr wyth olaf.  Ond gyda dim ond tri grŵp, mae yna le i ddau dîm ychwanegol yn y rowndiau nesaf. 

Mae'r ddau le yma yn mynd i'r timau sydd yn gorffen yn drydydd yn eu grŵp sydd â' canlyniadau gorau.  Nid yn unig ydy Cymru yn cystadlu gyda gweddill Grŵp A, ond hefyd timau yn y grwpiau eraill sydd mewn sefyllfa debyg iddyn nhw. 

Mae Cymru yn drydydd yng Ngrŵp A hyd yn hyn, ar ôl buddugoliaeth yn y munudau olaf yn erbyn Yr Alban a cholled drom yn erbyn Seland Newydd. 

Mae Cymru yn debygol o orffen yn y safle yma hyd yn oed os ydynt yn colli yn erbyn Awstralia, heblaw bod Yr Alban yn sicrhau buddugoliaeth hanesyddol yn erbyn pencampwyr y byd Seland Newydd. 

Mae'r canlyniadau hyd yn hyn yn golygu bod gan Gymru bedwar pwynt yn y grŵp.  Eu cystadleuaeth yn y grwpiau eraill yw'r UDA, sydd yn drydydd yng Ngrŵp B gyda phum pwynt a Fiji, sydd yn drydydd yng Ngrŵp C gyda phedwar pwynt. 

Felly, pe bai Cymru yn methu â churo Awstralia yn Whangarei, fe fydd yr holl sylw yn troi at ganlyniadau'r timau yma i weld os gallai Cymru aros yn Seland Newydd am wythnos ychwanegol. 

Ond y peth symlach i Gymru bydd i guro Awstralia, gan sicrhau ei lle yn y ddau gorau o'r grŵp.

Mae'r prif hyfforddwr Ioan Cunningham yn ymwybodol bod rhaid i'r garfan berfformio, ond mae'n hyderus o sicrhau'r canlyniad sydd angen. 

"Ma'n gêm anferth.  Ond ma' fe yn dwylo ni.  Ma' lan i ni," meddai. 

"Ma' raid mynd mas 'na a roi perfformiad ymlaen ar y cae, ac yn un ni'n edrych ymlaen at.

"Ma' digon o talent gyda ni a mynd mas a dangos e dyna be sy' ishe ni neud."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.