Newyddion S4C

Myfyriwr o Fethesda yn sefydlu sioe radio Gymraeg ym Mhrifysgol Bryste

16/10/2022

Myfyriwr o Fethesda yn sefydlu sioe radio Gymraeg ym Mhrifysgol Bryste

Mae myfyriwr o'r gogledd wedi sefydlu sioe radio Gymraeg ar orsaf radio Prifysgol Bryste, Burst Radio.

Mae Dafydd Hedd yn fyfyriwr economeg, ac mae wedi penderfynu cychwyn sioe radio ar yr orsaf, fydd yn chwarae caneuon Cymraeg.

Bydd y sioe, Y Calendr, yn chwarae amrywiaeth o ganeuon sydd newydd gael eu rhyddhau, caneuon gan artistiaid newydd ar y sîn Gymraeg a hefyd cerddoriaeth gan fandiau lleol Bryste.

Fe fydd Dafydd yn darlledu ar yr awyr rhwng 15:00 a 17:00 bob dydd Llun.

Fe ddechreuodd Y Calendr fel podlediad yn wreiddiol, ond penderfynodd ei wneud yn sioe radio gan ei fod bellach yn astudio ym Mryste.

"O'dd y podlediad yn trial helpu pobl yn y sîn Gymraeg. Oni'n neud fatha artist interviews factfile interviews efo artists fel bod pobl yn gallu adnabod nhw a gwbod be 'di stwff nhw.

"Wedyn oni jyst ishe cymryd y syniad 'na ond rhoi o ar sioe radio. Do's na'm rili hwb Cymraeg cultural yn Bristol a o'dd y gorsaf yn gobeithio bod nhw'n gallu helpu fi efo huna."

Mae Dafydd, sydd yn wreiddiol o Fethesda yng Ngwynedd, eisiau creu y teimlad o fod adref oddi cartref ym Mryste, a rhoi cyfle i fyfyrwyr sydd wedi croesi'r ffin i wrando ar gerddoriaeth Gymraeg a chael y teimlad o gymuned Gymreig yn y ddinas.

"Ma' 'na lot o bobl sy'n dod o Gymru yn astudio yn Bryste a dwi'n meddwl bod o'n rwbath neis rili lle ti'n gallu cael blas o adra achos ma lot o freshers newydd yn gallu teimlo fatha ma nhw'n methu'r iaith Gymraeg.

"Ma' lot o bobl yn y gogledd dwi'n siarad efo, os ti'n mynd i club a ti'n gweld person mewn Gareth Bale t-shirt a ma nhw'n siarad Cymraeg ma'n teimlad hollol grêt.

"Y teimlad felna dwi isho, trwy helpu pobl allan yn Bristol sydd yn gneud cerddoriaeth grêt, ond hefyd cael llais a hwb i diwylliant Cymraeg yn y brifysgol."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.