George Floyd: Derek Chauvin yn galw am achos llys newydd

Sky News 05/05/2021
George Floyd

Mae’r cyn heddwas Derek Chauvin wedi gofyn am achos llys newydd, bythefnos yn unig ar ôl iddo gael ei ganfod yn euog o lofruddio George Floyd.

Mewn cyfres o gynigion sydd wedi eu cyflwyno i'r barnwr Peter Cahill, dywedodd cyfreithiwr Chauvin, Eric Nelson, nad oedd ei gleient wedi cael achos llys teg, yn ôl Sky News.

Dywedodd Mr Nelson fod y barnwr wedi cam-drin disgresiwn y llys, ac wedi torri hawl Chauvin i broses briodol ac achos llys teg ar ôl i'w gais i symud yr achos i lys arall mewn ardal wahanol o Minnesota oherwydd cyhoeddusrwydd cyn yr achos, gael ei wrthod.

Darllenwch y stori'n llawn yma.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.