Argyfwng costau byw: 'Ydw i’n mynd i fwydo fy mhlant neu talu bils?'
Argyfwng costau byw: 'Ydw i’n mynd i fwydo fy mhlant neu talu bils?'

Mae mam o Ddyffryn Nantlle yng Ngwynedd yn poeni am ei biliau ynni wrth i’r dyddiau fyrhau.
Mae Annie Maycox eisoes wedi gorfod rhoi’r gorau i weithio oherwydd afiechyd ar ei chefn, ac ers mis Ionawr, mae’r teulu hefyd yn byw heb olew am fod y prisiau mor uchel.
Gweithio ar liwt ei hun fel person camera mae ei phartner Jamie ac mae Annie’n cael budd-daliadau, ac mae ganddyn nhw ddau o blant.
Maen nhw'n cadw’n gynnes yng nghartref ei mam ym Mhontllyfni.
Dywedodd Annie wrth raglen Newyddion S4C: "Hefo'r prisiau yma'n codi, 'dan ni 'di gorfod meddwl: 'dan ni either yn mynd i dalu'r electrig neu council tax, pa un 'dan ni'n mynd i dalu mis yma? Fedran ni ddim talu am bob dim."
Dywedodd ei mam, Gwyneth, ei bod yn "poeni rwan sut mae'r bobl bach ifanc 'ma yn gwneud ohoni rwan, dwi yn de?
"Dim yn aml iawn dwi'n cael Annie ar y ffôn yn crio ella heb bres i brynu bwyd."
Wrth ymateb i'r cynnydd mewn prisiau bwyd, dywedodd Annie y byddai hi wedi gallu "cael troli (o fwyd) am £50 blwyddyn diwetha dwi'n meddwl. Mae 'na lot o wahaniaeth."
Er ei bod yn gallu troi at gymorth ei mam, dydy hyn ddim yn beth hawdd i'w wneud o hyd meddai.
"Mae'n anodd gorfod gofyn wrth rywun - neb - am help, dydi? Ti isio sefyll ar dy draed dy hun, ac mae gen i deulu rwan, mae'n anodd gorfod gofyn am help, ond weithiau ti'n gorfod.
"Dwi ddim yn gwybod sut mae pobl yn mynd i copio gaeaf yma i ddeud y gwir."