Cyfarfod cyhoeddus yn erbyn cau Canolfan Ambiwlans Awyr Y Trallwng
Bydd cyfarfod cyhoeddus yn cael ei gynnal ddydd Gwener i wrthwynebu cau Canolfan Ambiwlans Awyr Y Trallwng.
Mae miloedd wedi arwyddo deiseb yn gwrthwynebu cynlluniau i ad-drefnu'r Ambiwlans Awyr yng Nghymru.
Dywed y ddeiseb fod y "gwasanaeth yn hollbwysig i Bowys yn sgil yr ardaloedd gwledig a'r pellteroedd mawr sydd yn rhaid i ni deithio ar gyfer gofal brys."
Mae'r elusen yn ystyried cau y maes awyr yn Nhrallwng a bydd y hofrenyddion a'r cerbydau ymateb cyflym yn cael eu symud er mwyn ymuno â'r adran yng Ngogledd Cymru.
Dywed y gwasanaeth ambiwlans awyr y byddai modd cyrraedd "mwy na 500 o deithiau achub bywyd ychwanegol yng Nghymru yn flynyddol" drwy ad-drefnu lleoliadau.
Mae'r elusen yn ystyried ehangu oriau'r gwasanaeth, gydag un criw yn gweithio rhwng 08:00 a 20:00, ac un arall rhwng 14:00 a 2:00.
Ar hyn o bryd, mae'r ddau griw yn gweithio 12 awr, ond o dan y cynllun newydd, mae'r elusen yn dweud y byddant ar gael am gyfnod o 18 awr, ac y byddai hyn yn golygu bod mwy o ymateb lleol i gleifion yn y gogledd a'r canolbarth yn hytrach na bod yn ddibynol ar y criw yng Nghaerdydd.
Bydd Aelod Senedd Cymru dros Sir Drefaldwyn, Russell George, yn bresennol yn ogystal â chynghorwyr lleol ac mae Ymddiriedolaeth Elusennol Ambiwlans Awyr hefyd wedi cael eu gwahodd i anfon cynrychiolwyr.