Arestio bachgen 16 oed ar amheuaeth o lofruddio bachgen 15 oed yn Swydd Efrog
Mae bachgen 16 oed wedi’i arestio ar amheuaeth o lofruddio ar ôl i fachgen 15 oed gael ei drywanu i farwolaeth y tu allan i ysgol yn Swydd Efrog.
Digwyddodd yr ymosodiad ar y bachgen brynhawn Mercher, yn agos at fynedfa Ysgol North Huddersfield Trust.
Derbyniodd y dioddefwr driniaeth yn y fan a’r lle, ac fe gafodd ei gludo i Ysbyty Cyffredinol Leeds i gael llawdriniaeth frys lle bu farw ychydig yn ddiweddarach.
Cadarnhaodd yr heddlu bod ymchwiliad llofruddiaeth ar y gweill.
Cafodd y llanc 16 oed ei arestio mewn cyfeiriad yn y dref toc cyn 05:00 ddydd Iau, yn ôl Heddlu Gorllewin Swydd Efrog.
Mae'n parhau yn y ddalfa ac mae ymholiadau'r heddlu yn parhau.