Liz Truss yn ‘barod i fod yn amhoblogaidd’ er mwyn hybu’r economi

Mae prif weinidog y DU Liz Truss “yn barod i fod yn amhoblogaidd” ar drethi er lles yr economi meddai.
Mae hi wedi amddiffyn unrhyw doriadau y bydd ei llywodraeth yn eu cyhoeddi ddiwedd yr wythnos gan nodi ei bod yn "barod i wneud beth bynnag fydd ei angen er mwyn i’r economi dyfu eto.”
Mewn cyfweliad gyda Sky News fe wrthododd unrhyw bryderon y bydd y llywodraeth yn benthyg rhagor yn hytrach na threthi elw'r cwmnïau ynni.
Ychwanegodd nad oedd hi’n credu fod torri trethi yn annheg.
Darllenwch fwy yma.