Cyfrifoldeb dros ganolfan Plas Menai i gael ei drosglwyddo i gwmni preifat

20/09/2022
Plas Menai

Mae Chwaraeon Cymru wedi cyhoeddi y bydd cyfrifoldeb dros ganolfan awyr agored Plas Menai ger Caernarfon yn cael ei drosglwyddo i gwmni preifat. 

Yn dilyn adolygiad o safle Canolfan Awyr Agored Genedlaethol Cymru yn 2017, penderfynodd Chwaraeon Cymru chwilio ar gyfer "partner strategol" er mwyn diogelu ei dyfodol. 

Bellach, mae Chwaraeon Cymru wedi cyhoeddi y byddant yn gweithio gyda chwmni Parkwood Leisure o fis Ionawr 2023 ymlaen. 

Bydd Parkwood Leisure yn cymryd cyfrifoldeb dros weithredu'r ganolfan o ddydd i ddydd am y 10 mlynedd nesaf. 

Chwaraeon Cymru fydd yn parhau i berchen y dir a'r adeiladau ar y safle. 

Dywedodd cyfarwyddwr Chwaraeon Cymru, Graham Williams y bydd y partneriaeth yn "arwain at fwy o bobl yn mwynhau popeth sydd gan Blas Menai i’w gynnig.

"Mae Parkwood yn amlwg yn deall pa mor bwysig yw Plas Menai i Chwaraeon Cymru ac mae eu hanes o gydweithio i wella a darparu gwasanaethau yng Nghymru a thu hwnt yn nodedig.

"Yn ystod y saith mis diwethaf maen nhw wedi creu argraff arnom ni gyda’u syniadau arloesol ynghylch datblygu darpariaeth gydol y flwyddyn, eu harbenigedd a’u hymrwymiad i ddeall anghenion y gymuned leol, yn ogystal â’r pwysigrwydd maen nhw’n ei roi i les staff." 

'Siomedig iawn'

Ond mae gwleidyddion lleol yng Ngwynedd wedi beirniadu'r penderfyniad i drosglwyddo Plas Menai i ddwylo cwmni preifat.

Dywedodd Sian Gwenllian, AS Plaid Cymru dros Arfon yn y Senedd, ei bod yn "siomedig iawn" gyda'r cynlluniau. 

“Rwy’n mawr obeithio nad yw’r cyhoeddiad yn arwydd o fwriad Chwaraeon Cymru i symud yn araf bach tuag at breifateiddio cyfleusterau hamdden. Mae’n gorff sy’n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru, wedi’r cyfan.

"Yn ogystal â hynny, tybed a oes unrhyw ystyriaeth wedi ei rhoi i effaith preifateiddio ar wasanaethau Cymraeg y ganolfan? 

 “Mae angen sicrwydd arnom na fydd partner preifat yn arwain at wanhau gwasanaethau Cymraeg. Rhaid i bobl leol allu dwyn partneriaid i gyfrif.”

Dywedodd Dawn Bowden, Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon: "Bydd y dull hwn yn dod â phrofiad ac arbenigedd o'r sector i dyfu'r busnes fel cyrchfan chwaraeon gydol y flwyddyn, a fydd yn galluogi twf a datblygiad hirdymor Plas Menai.

"Bydd y bartneriaeth yn diogelu telerau ac amodau cyflogaeth holl staff y ganolfan a bydd Plas Menai yn cadw ei statws fel y Ganolfan Awyr Agored Genedlaethol, gan weithredu ar sail nid-er-elw.

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.