Y Frenhines Elizabeth II wedi ei chladdu gyda Dug Caeredin
Mae'r digwyddiadau cyhoeddus i gofnodi bywyd y ddiweddar Frenhines Elizabeth II wedi dod i ben, wrth i'r Teulu Brenhinol fynychu gwasanaeth claddu preifat yng Nghapel Coffa'r Brenin Siôr VI yn Windsor.
Mae'r Frenhines wedi cael ei chladdu yn un o'r siambrau yng Nghapel San Siôr, sef y Gladdgell Frenhinol. Mae corff ei diweddar ŵr, Dug Caeredin wedi cael ei symud o'r beddrod brenhinol i'r gladdgell, ac mae'r ddau wedi cael eu claddu gyda'i gilydd.
Mae rhieni'r Frenhines Elizabeth II, sef y Brenin Siôr VI a'r Fam Frenhines Elizabeth wedi eu claddu yn y capel coffa, yn ogystal â'i chwaer, y Dywysoges Margaret.
Yr ysgrifen ar y garreg fedd yw ELIZABETH II 1926-2022.
Bydd y cyfnod o alaru cyhoeddus swyddogol yn dod i ben am hanner nos. A bydd y cyfnod o alaru i'r Teulu Brenhinol yn para am saith niwrnod wedi'r angladd.