'Gallai wythnos waith pedwar diwrnod leddfu costau byw’

Byddai wythnos waith pedwar diwrnod o hyd yn arbed miloedd o bunnoedd y flwyddyn i rieni mewn costau gofal plant, meddai melin drafod.
Yn ôl y corff Autonomy byddai’r polisi, fyddai yn golygu cael tâl am bum niwrnod trwy weithio oriau hirach yn ystod yr wythnos, yn helpu i leddfu’r argyfwng costau byw.
Byddai rhywun â phlentyn dan ddwy oed yn arbed £1,440 mewn gofal plant ar gyfartaledd dros flwyddyn.
Daw'r dadansoddiad wedi i gynllun peilot wythnos waith pedwar diwrnod yn y DU gael ei dreialu. Mae'r cynllun wedi bod ar waith ers mis Mehefin a bydd yn dod i ben fis Tachwedd.
Mae 73 o gwmnïau sy’n cyflogi tua 3,300 o weithwyr wedi bod yn cymryd rhan.
Rhagor yma.