Lluoedd Wcráin yn ennill rhagor o dir yng ngogledd ddwyrain y wlad

Mae lluoedd arfog Wcráin wedi llwyddo i sicrhau meddiant ar ragor o dir yng ngogledd ddwyrain y wlad, yn dilyn ymladd ffyrnig dros yr wythnosau diwethaf.
Yn ôl adroddiadau mae milwyr wedi croesi afon Oskil yn rhanbarth Kharkiv.
Byddai sicrhau cadarnle ar lannau dwyreiniol yr afon yn bygwth rheolaeth Rwsia ar ranbarth y Donbas, sydd yn ganolog i gynlluniau'r Kremlin yn y wlad.
Yn y cyfamser mae Rwsia wedi ei chyhuddo o ymosod ar orsaf niwclear yn y de yn ardal Mykolaivka. Mae Wcráin yn dweud bod ffrwydrad wedi glanio 300 metr o orsaf Pivdennoukrainsk ac achosi difrod i rai o'r adeiladau ond ddim i'r adweithyddion.
Yn ei anerchiad nosweithiol nos Sul, dywedodd yr Arlywydd Zelensky y byddai rhagor o ddinasoedd yn cael eu rhyddhau wrth i'w luoedd ennill tir.
"Izyum, Balakliya, Kupyansk a rhanbarth Kharkiv yn gyffredinol yw'r dinasoedd a'r cymunedau yr ydym wedi'u rhyddhau. Clywir y geiriau hyn yn awr. Fe'u clywir ym mhobman.
"Byddwn yn clywed enwau Mariupol, Melitopol a Kherson hefyd, ond byddant i'w clywed hyd yn oed yn amlach ac yn uwch pan fyddwn yn eu rhyddhau.
"Donetsk, Horlivka a Luhansk - byddant yn cael eu clywed hefyd. Dzhankoy, Yevpatoriya, Yalta - a'r enwau hyn hefyd - heb amheuaeth."
Darllenwch ragor yma.