A yw rhoi Abersoch ar y map yn gymorth neu'n niwed i'r gymuned Gymreig yno?

Traeth Abersoch

"Mae'n bwnc dadleuol a chymhleth iawn."

Dyna sut mae un cyn-gynghorydd yn disgrifio twristiaeth yn Abersoch ac ardaloedd eraill ym Mhen Llŷn.

Dros y misoedd diwethaf mae enwogion fel Molly-Mae Hague, Bear Grylls, Bradley Cooper a Coleen Rooney wedi ymweld â'r ardal, gan ychwanegu at ei phoblogrwydd yn ôl rhai.

Yn ôl y ffigurau diweddaraf sydd wedi’u cyhoeddi, mae twristiaeth yn werth tua £1.72 biliwn i economi Gwynedd bob blwyddyn, gyda'r diwydiant yn creu dros 17,000 o swyddi llawn amser.

Mae un darlithydd mewn economeg yn dweud bod presenoldeb llefydd fel Abersoch ar y cyfryngau cymdeithasol yn gallu gyrru twf mawr mewn twristiaeth, gan ychwanegu pwysau ar wasanaethau lleol.

“Gall sylw ar-lein wneud llefydd yn boblogaidd iawn," meddai'r Athro Maxim Munday wrth Newyddion S4C.

"Ond gall hefyd roi pwysau ar ffyrdd, seilwaith ac ar yr amgylchedd, sydd yn cynyddu'r angen am fwy o wariant cyhoeddus i drin y cynnydd yn nifer yr ymwelwyr.”

Tynnodd sylw at broblem ail dai yn yr ardal hefyd, gan ddweud bod y cynnydd yn gallu arwain at effeithiau negyddol ar yr economi.

Mae ffigurau Cyfrifiad 2021 yn nodi mai yn Abersoch y mae nifer uchaf yr ail dai yng Nghymru, ac yng Ngwynedd gyfan mae 8.3% o'r tai yno yn ail dai.

“Mewn rhai ardaloedd gall nifer uchel o ail dai arwain at lai o gartrefi i bobl sy’n gweithio’n lleol, ac effeithio ar y farchnad lafur,” meddai'r Athro Munday.

“Gall hefyd arwain at leihad mewn gwariant lleol os nad yw’r tai yn cael eu defnyddio’n rheolaidd.”

Mae gan Abersoch boblogaeth o tua 700 o bobl, gyda hyd at 30,000 yn ymweld â'r ardal yn ystod misoedd yr haf.

Image
Traeth Abersoch
Traeth Abersoch.

Twristiaeth yn 'hanfodol'

Ar hyn o bryd, mae perchnogion ail gartrefi yng Ngwynedd yn talu premiwm treth gyngor o 150%.

Mae'r premiwm treth wedi cael effaith ar nifer yr ail dai yn y sir, gyda ffigurau Cyngor Gwynedd yn dangos bod 4,588 o dai yn talu'r premiwm yn 2025/26, o gymharu â 4,758 yn 2023/24.

Yn ôl un perchennog busnes tai yn yr ardal, Martin Lewthwaite, mae twristiaeth bellach yn “hanfodol” i gynnal bywyd economaidd y pentref.

“Mae’r siopau a’r caffis yn gallu aros ar agor drwy gydol y flwyddyn, lle bydden nhw’n arfer cau dros y gaeaf,” meddai.

“Mae mwy o dwristiaeth nawr ar benwythnosau, ac mae hynny’n cadw’r busnesau’n fyw. Heb dwristiaid, fyddai llawer o fusnesau bach ddim yn goroesi."

Mae cyn-gynghorydd lleol yn dweud bod angen "taro balans" rhwng hybu twristiaeth a sicrhau bod tai yn fforddiadwy i bobl leol.

Yn ôl ffigurau diweddar, mae pris tŷ ar gyfartaledd yng Ngwynedd wedi gostwng 12% i tua £221,000.

“Rhaid cydnabod bod pobl leol yn cael trafferth," meddai Wyn Williams.

"Dydyn nhw ddim yn gallu fforddio tai, ac oherwydd cost uchel tir, mae darparu tai fforddiadwy yn hynod heriol. Ond ar yr un pryd, mae’r twristiaid yn cadw’r ardal i fynd.

"Mae angen taro'r balans rhwng anghenion pobl leol a’r economi dwristiaeth, neu fe fydd perygl na fydd cymuned leol i’w chael, ac fe fydd yr ardal yn wag dros y gaeaf.”

Ymateb lleol

Mae Arolwg Trigolion Gwynedd yn gofyn i'r rhai sydd yn byw yn y sir am eu barn ar dwristiaeth a'r heriau a buddiannau sydd yn dod yn sgil nifer uchel o ymwelwyr.

Nododd yr arolwg diweddaraf yn 2024, a holodd dros 1,500 o bobl ledled y sir, fod "colled hunaniaeth a ffordd o fyw" yn sgil cynnydd sylweddol mewn twristiaeth mewn rhai ardaloedd.

Roedd rhai o'r ymatebion hefyd yn trafod effaith negyddol ar y Gymraeg gan fod llai o dai fforddiadwy i bobl leol.

Soniodd rhai fod twristiaeth wedi "gwella ansawdd" eu bywydau, gyda 80.1% o'r rhai wnaeth ymateb yn dweud bod yna elfennau positif am dwristiaeth yn yr ardal.

Mae gan rai pobl ifanc farn gymysg am effaith twristiaeth ar ardaloedd arfordirol Gwynedd.

Dywedodd Elain Denham, sydd yn frodor o Ben Llŷn, bod dylanwad enwogion fel Molly-Mae yn ymweld â'r ardal yn gallu cael effaith negyddol” gan fod Abersoch “yn rhy fach i dderbyn cymaint o ymwelwyr.”

Ychwanegodd fod cynnydd yn nifer yr ymwelwyr "yn dinistrio harddwch naturiol Abersoch, fel adeiladu fflatiau a thai sydd ddim yn gweddu i’r ardal."

Disgrifiodd Ela Rhys y sefyllfa tai yn Abersoch “yn ddirdynnol” a'i bod hi'n broblem fawr gan “na all brodorion Llŷn fforddio tai yn eu cynefin eu hunain”.

Ond fe ychwanegodd fod sylw a'r dylanwad ar yr ardal yn gadarnhaol, gan ddweud bod pobl fel "Molly Mae a Bear Grylls yn dod â hwb ariannol sylweddol i fusnesau lleol ac yn sicr yn dod ag enw da i'r ardal."

Image
Ela Rhys
Ela Rhys

Ymateb Cyngor Gwynedd

Dywedodd Cyngor Gwynedd bod ganddyn nhw gynlluniau mewn lle i sicrhau "twristiaeth gynaliadwy a chymunedau cryf" yng Ngwynedd.

"I sicrhau fod tai addas ar gael, mae Cyngor Gwynedd yn cydnabod fod sicrhau fod swyddi addas ar gael yn y sir sy’n talu cyflogau i alluogi trigolion Gwynedd gynnal eu hunain a’u teuluoedd hefyd yn allweddol bwysig.

"Mae rhaglen Gwynedd Lewyrchus wedi cael ei mabwysiadu fel un o flaenoriaethau’r Cyngor yn Gynllun y Cyngor 2023-28.

"Yr uchelgais ar gyfer y rhaglen yma yw sicrhau swyddi o safon, twristiaeth gynaliadwy a chymunedau cryf.”

Mae’r cyngor hefyd wedi datblygu cynllun ‘Tai Teg’, sy’n galluogi aelwydydd ag incwm o lai na £60,000 i fenthyg rhwng 10% a 50% o werth tŷ o dan £300,000.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.