Starmer eisiau ymuno â chynllun benthyciad yr Undeb Ewropeaidd ar gyfer Wcráin

Starmer Zelensky

Mae Syr Keir Starmer wedi dweud y byddai ymuno â chynllun benthyciad yr Undeb Ewropeaidd ar gyfer Wcráin yn "dda iawn" ar gyfer y berthynas rhwng y Deyrnas Unedig â'r Undeb, ac er mwyn creu swyddi ym Mhrydain.  

90 biliwn Ewro yw'r benthyciad, sef £78 biliwn.

Cyhoeddodd Prif Weinidog y DU y cais i ymuno â'r cynllun yn ystod cyfarfod o blith arweinwyr Ewropeaidd ym mhrifddinas Armenia, Yerevan ddydd Llun. 

Mae Syr Keir Starmer yn awyddus i ddatblygu perthynas agosach gyda'r Undeb Ewropeaidd ym maes amddiffyn, diogelwch a'r economi. 

Tra'n siarad â'r cyfryngau wrth iddo gyrraedd uwchgynhadledd y Gymuned Wleidyddol Ewropeaidd, dywedodd: "O safbwynt benthyciad yr Undeb Ewropeaidd yr ydym yn trafod ymuno ag e, mae'n dda iawn ar gyfer Wcráin, oherwydd byddai'n rhoi'r adnoddau iddyn nhw y mae'n nhw wir ei angen ym mhumed flwyddyn y rhyfel.

"Mae'n dda iawn ar gyfer y DU, oherwydd gallai arwain at swyddi yn y Deyrnas Unedig.

"Ac mae'n dda iawn ar gyfer y berthynas rhwng y DU â'r Undeb Ewropeaidd, sy'n bwysig iawn wrth i ni fwrw ymlaen gydag amrywiol drafodaethau."

Ychwanegodd ei bod yn "hanfodol" gweithio gydag arweinwyr rhyngwladol eraill, gan nodi fod y gwrthdaro yn Wcráin a'r Dwyrain Canol yn effeithio ar  bob aelwyd yn y DU wrth i brisiau ynni godi.  

Syr Keir Starmer ac Arlywydd Ffrainc, Emmanuel Macron, gadeiriodd y cyfarfod am Wcráin ar y cyd.

Yn bresennol roedd Arlywydd Wcráin, Volodymyr Zelensky, Prif Weinidog yr Eidal, Giorgia Meloni, Arweinydd Gwlad Pwyl, Donald Tusk, Prif Weinidog Norwy, Jonas Gahr Store, Pennaeth Nato, Mark Rutte, Llywydd yr Undeb Eworopeaidd, Ursula von der Leyen, a'i dirprwy Kaja Kallas, a Llywydd y Cyngor Ewropeaidd, Antonio Costa.

Yn y trafodaethau hefyd roedd Prif Weinidog Canada, Mark Carney - yr arweinydd cyntaf o wlad y tu allan i Ewrop i ymuno â'r uwchgynhadledd.

Dywedodd Syr Keir Starmer fod Prydain eisiau gweithio'n agosach gyda gwledydd yr Undeb Ewopeaidd, er mwyn sicrhau bod Kyiv yn derbyn yr offer milwrol y maen nhw eu hangen wrth i'w brwydr yn erbyn Rwsia barhau.    

Yn ôl Downing Street, bydd y DU yn gosod sancsiynau pellach ar gwmnïau Rwsiaidd yn ddiweddarach yr wythnos hon. 

Bydd y Deyrnas Unedig a'r Undeb Ewropeaidd yn cynnal uwchgynhadledd arall ar y cyd yr haf hwn.  

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.