Ysgol ym Mhowys dan glo wedi 'bygythiad'
Mae ysgol uwchradd ym Mhowys wedi’i gosod dan glo am gyfnod ar gais yr heddlu ar ôl i fygythiad gael ei wneud dros y ffôn.
Cafodd Heddlu Dyfed-Powys eu galw i Ysgol Maesydderwen yn Ystradgynlais am 10.45 fore Llun yn dilyn y bygythiad.
Mae’r llu wedi cadarnhau nad oes unrhyw un wedi’i anafu yn yr ysgol, a bod disgyblion ac athrawon yn ddiogel ac wedi’u cadw ar y safle am y tro.
Mae rhieni wedi cael gwybod am y sefyllfa drwy ap negeseuon yr ysgol.
Dywedodd llefarydd ar ran y llu: “Rydym yn ymdrin â digwyddiad yn Ysgol Maesydderwen yn Ystradgynlais.
“Mae swyddogion yn gweithio gyda’r ysgol yn dilyn bygythiad a gafodd ei wneud dros y ffôn.
“Fe fyddwn yn rhannu rhagor o wybodaeth maes o law.”
Dywedoddd llefarydd ar ran Cyngor Powys: "Gallwn gadarnhau bod Ysgol Maesydderwen wedi mynd dan glo yn llawn y bore yma fel rhagofal yn dilyn gwybodaeth sy’n cael ei hymchwilio gan Heddlu Dyfed Powys.
“Mae’r holl ddysgwyr a staff yn ddiogel ac mae’r heddlu ar y safle.”
