Ymgyrch yn gofyn am farn y cyhoedd ar ddyfodol Capel Mawr yn Ninbych

capel mawr dinbych

Mae ymgyrch wedi dechrau i ofyn am farn y cyhoedd ar ddyfodol adeilad Capel Mawr yn Ninbych.

Mae'r capel, sydd â lle i 1,000 o bobl i eistedd, yn parhau yn weithredol ond mae ei aelodaeth wedi gostwng bellach i ychydig dros 40.

Mae'r gost o gynnal a chadw'r adeilad rhestredig Gradd II hefyd yn bryder cynyddol. 

Tua 10 mlynedd yn ôl, fe gafodd y posibilrwydd o greu ymddiriedolaeth elusennol ei ystyried, ond ni ddaeth dim ohono.

Bellach mae swyddogion y capel yn ardal Dinbych yn gofyn am farn y gymuned leol. 

Mae'r ddogfen gyhoeddus yn gofyn: "Pe baech chi'n cerdded drwy ddrysau Capel Mawr ymhen ychydig flynyddoedd, beth fyddech chi'n hoffi ei weld yn digwydd yno?"

Mae Capel Mawr yn cael ei ystyried yn un o'r adeiladau pwysicaf yn Ninbych ac yn un o'r mannau addoli mwyaf hanesyddol yng Nghymru.

Cafodd y capel gwreiddiol ei adeiladu ym 1743 cyn cael ei ail-adeiladu ym 1829. 

Mae'r adeilad presennol, a gafodd ei ddylunio gan y pensaer nodedig Richard Owen, yn dyddio o 1880.

Gweinidog enwoca'r capel oedd y gwleidydd Thomas Gee, a sefydlodd fusnes Gwasg Gee. Roedd tua 2,000 o bobl yn bresennol yn ei angladd ym 1898.

Mewn amseroedd mwy diweddar, mae aelodau Capel Mawr wedi cynnwys yr awduron Kate Roberts a Mathonwy Hughes, a'r bardd a'r gwleidydd Gwilym R Jones. 

Roedd Gwasg Gee wedi cynhyrchu papur newydd Baner ac Amserau Cymru a nifer o weithiau llenyddol pwysicaf y Gymraeg yn yr 19eg a’r 20fed ganrif o'u swyddfa ar Stryd y Capel y dref.

Mae'r adeilad gwag Gradd II, sydd dafliad carreg o Gapel Mawr, wedi ei ychwanegu ar restr o 10 eiddo o bwys hanesyddol sydd dan fygythiad gwirioneddol gan yr elusen Save Britain’s Heritage.

Cafodd cwmni ei sefydlu yn y 1950au i geisio achub Gwasg Gee ond fe ddaeth i ben yn 2001 ac mae'r adeiladau yn Stryd y Capel wedi bod yn wag fyth ers hynny. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.