Christa Pike yn ‘ymwybodol ac yn siarad’ ar ôl goroesi pigiad angheuol
Mae’r carcharor yn yr Unol Daleithiau Christa Pike yn “ymwybodol ac yn siarad” ar ôl goroesi ymgais i’w dienyddio drwy bigiad marwol, yn ôl ei chyfreithwyr.
Mae Pike, sy’n 50 oed, yn parhau i gael gofal meddygol dwys yn yr ysbyty tra bod ei dwylo mewn gefynnau, medden nhw.
Cafodd Pike ei dedfrydu i farwolaeth ym 1996 am lofruddio Colleen Slemmer.
Cafodd Pike ei chwistrellu â dau ddos angheuol o bentobarbital yn Tennessee, ond fe wnaeth hi oroesi.
Cafodd ei chludo i’r ysbyty ac roedd hi’n anymwybodol am ddiwrnodau tra roedd staff meddygol yn cael gwared ar y cemegyn o’i chorff.
Yn ôl arbenigwyr a’i thîm cyfreithiol, mae ei hadferiad yn ddigynsail. Y gred yw mai hi yw’r unig berson i oroesi pigiad marwol.
Roedd Pike yn 18 oed pan wnaeth hi a’i chariad ar y pryd, Tadaryl Shipp, guro, arteithio a lladd Colleen Slemmer, 19 oed.
'Niwed difrifol' i'w breichiau
Mae’r rhagolygon o ran ei hadferiad yn parhau’n ansicr.
Mae Dr Joel Zivot, anesthetydd sy’n cynghori tîm amddiffyn Pike, wedi dweud bod “posibilrwydd go iawn” y bydd ganddi niwed i’r ymennydd oherwydd yr oedi cyn ceisio ei dadebru.
Un esboniad posib am y ffaith ei bod wedi goroesi, meddai, yw bod y pentobarbital wedi lledaenu drwy’r meinwe o dan ei chroen yn hytrach na mynd i mewn i lif ei gwaed.
Roedd tîm cyfreithiol Pike wedi rhybuddio bod posibilrwydd y byddai’n dioddef poen “diangen” yn ystod y pigiad marwol oherwydd bod ganddi wythiennau bach ac oherwydd ei hanes meddygol.
Ddydd Mawrth, fe ddywedon nhw ei bod wedi dioddef “niwed difrifol” i’w breichiau.
Dyw’r awdurdodau ddim wedi dweud a fyddan nhw’n ceisio dienyddio Pike eto. Dydyn nhw chwaith heb roi esboniad am yr hyn a aeth o’i le ar ôl iddi gael y ddau bigiad.
Mae Llywodraethwr Tennessee, Bill Lee, wedi dweud ei fod yn atal pob dienyddiad am weddill y flwyddyn. Mae pennaeth carchardai’r dalaith hefyd wedi dweud ei fod yn bwriadu ymddiswyddo.
Dyma’r ail dro yn 2026 i swyddogion yn Tennessee geisio dienyddio carcharor a methu.